Y Sefydliad Rheoli Morol yn ymgysylltu â myfyrwyr drwy gêm fwrdd cynllunio arfordirol arloesol
4 Ebrill 2025

Yn ddiweddar, croesawon ni’r Sefydliad Rheoli Morol (MMO) ar gyfer profiad difyr ac addysgol a gynlluniwyd i roi cyfle i fyfyrwyr ymdrochi yng nghymhlethdodau rheoli morol yn y byd modern. Roedd y digwyddiad yn cynnwys gêm fwrdd chwarae rôl unigryw a oedd yn ymwneud â’r heriau sy’n codi wrth gynllunio a rheoli gosodiadau mewn dyfroedd arfordirol.
Cymerodd tua deuddeg myfyriwr ran yn y gêm, gan ymuno â chynrychiolwyr o MMO, Ellie Hoad a James Roper, sy’n rhan o’r tîm Cynllunio Morol. Amcan y gêm oedd cynllunio, trafod, a chymeradwyo lleoliad a diben gosodiadau amrywiol mewn ardaloedd arfordirol. Drwy gydol y gêm, roedd y rhai a oedd yn cymryd rhan yn chwarae rolau rhanddeiliaid â blaenoriaethau cystadleuol, megis cynrychiolwyr o bysgodfeydd a safleoedd carthu, darparwyr cyfleustodau, cadwraethwyr, cynhyrchwyr ynni, a gweithredwyr safleoedd twristiaeth.
Un o agweddau allweddol y gêm oedd mynd i’r afael â buddiannau’r rhanddeiliaid hyn sy’n gwrthdaro. Er enghraifft, dysgodd chwaraewyr a oedd yn cynrychioli safleoedd carthu a gosodiadau ceblau tanddwr bod eu hamcanion yn gwrthdaro. O ganlyniad, roedd yn rhaid iddyn nhw drafod a meithrin partneriaethau gyda rhanddeiliaid eraill i gael mynediad at safleoedd a oedd yn cyd-fynd â'u nodau.
Roedd y gêm yn ceisio annog chwaraewyr i fynd ati i drafod, dod i delerau a chyfaddawdu, gan annog myfyrwyr i ystyried anghenion ehangach y gymuned wrth gyflawni eu blaenoriaethau. Ychwanegodd natur amserol y gêm elfen ddwys, gan orfodi myfyrwyr i wneud penderfyniadau cyflym wrth gynnal deialog feddylgar. Wrth i'r gêm ddod i ben, dechreuodd sgyrsiau bywiog yn sgil trafodaethau munud olaf, gan wneud y profiad yn un gyffrous a deinamig.
Comisiynwyd y gêm yma (Marine Spatial Challenge Game), a grëwyd gan gwmni yn yr Iseldiroedd, gan MMO i gynnig fersiwn wedi'i theilwra ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae'r gêm yn adnodd gwerthfawr a ddefnyddir gan MMO i ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid sy’n defnyddio’r amgylchedd morol mewn gwahanol ffyrdd. I gael rhagor o wybodaeth am y gêm, ewch i The Board Game.
Yn ogystal â'r gêm, gwyliodd y myfyrwyr gyflwyniad ysgogol gan Ellie Hoad a James Roper o dîm Cynllunio Morol MMO. Tynnodd y cyflwyniad sylw at yr ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael ym maes rheoli morol, gan ddangos sut mae gwahanol broffesiynau yn cyfrannu at iechyd ein cefnforoedd. Roedd y sesiwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddiddorol gan Dr. Rhoda Ballinger, Cadeirydd Partneriaeth Aber Hafren a Darlithydd er Anrhydedd yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, a rannodd ei harbenigedd ar gadwraeth arfordirol a morol.
Hoffen ni ddiolch i'r Sefydliad Rheoli Morol am ei gyfraniad amhrisiadwy i'r digwyddiad. Bydd yr wybodaeth a'r profiad a rannwyd ganddyn nhw yn sicr yn gwella dealltwriaeth ein myfyrwyr o reoli morol ac yn cynnig sgiliau gwerthfawr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol - yn y byd academaidd a thu hwnt i'w hastudiaethau.
Dilynwch yr MMO ar LinkedIn drwy fynd i Marine Management Organisation: Posts | LinkedIn am ddiweddariadau pellach.