Ewch i’r prif gynnwys

UK Young Academy yn croesawu darlithydd yn y gyfraith o Brifysgol Caerdydd i’w garfan gyntaf

22 Chwefror 2023

Dr Barbara Hughes-Moore
Dr Barbara Hughes-Moore

Mae darlithydd yn y gyfraith o Brifysgol Caerdydd wedi’i enwi’n rhan o garfan gyntaf UK Young Academy, rhwydwaith o weithwyr proffesiynol ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a sefydlwyd er mwyn helpu i fynd i’r afael â phroblemau lleol a byd-eang, gan gynnwys hyrwyddo newid ystyrlon.

Mae’r darlithydd yn y gyfraith, Dr Barbara Hughes-Moore, yn un o bum academydd yn unig o Gymru a ddewiswyd o amrywiaeth o ddisgyblaethau i fod yn llais dros newid. Mae 67 o aelodau o bob rhan o’r DU ar hyn o bryd.

Ymunodd Dr Hughes-Moore ag Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn ddarlithydd yn 2021, yn dilyn astudio ar gyfer ei graddau israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol. Mae’n addysgu ac yn ymchwilio i gyfraith trosedd, ffuglen Gothig, a chyfraith tystiolaeth. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar y gyfraith a llenyddiaeth (sy’n ymchwilio i’r croestoriadau rhethregol a diwylliannol rhwng gweithiau llenyddol a chyfreithiol). Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar lyfr sy'n dangos sut y gall ‘angenfilod’ mewn nofelau Gothig ddatgelu ‘drwg’ y gyfraith trosedd o’r 19eg ganrif hyd heddiw. Dr Hughes-Moore hefyd yw Golygydd Adolygiadau cyfnodolyn Romantic Textualities: Literature and Print Culture, 1780-1840.

Wrth sôn am gael ei chynnwys yn UK Young Academy, dywedodd Dr Hughes-Moore: “Braint yw bod yn rhan o garfan gyntaf UK Young Academy. Rwyf mor falch o gael gweithio ochr yn ochr â phobl mor dalentog a gwych sydd yr un mor frwd dros sicrhau newid ystyrlon a pharhaol yn y byd. Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at fod yn un o bum aelod sy’n cynrychioli Cymru a chymryd ein camau cyntaf i sicrhau system gyfiawnder decach i bawb.”

Sefydlwyd UK Young Academy i sicrhau cydweithredu rhyngddisgyblaethol ag Academi’r Gwyddorau Meddygol, yr Academi Brydeinig, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Academi Peirianneg Frenhinol, Academi Frenhinol Iwerddon, Cymdeithas Frenhinol Caeredin, a’r Gymdeithas Frenhinol. Mae'n ymuno â’r fenter fyd-eang o academïau ifanc, ac ef yw academi rhif 50 i wneud hynny.

Dechreuodd aelodaeth 5-mlynedd Dr Hughes-Moore ar 1 Ionawr 2023.

Rhannu’r stori hon