Ewch i’r prif gynnwys

Antiverse yn ymuno ag Arloesedd Caerdydd

30 Ionawr 2023

A lab worker from Antiverse carrying out an experiment

Mae cwmni biodechnoleg newydd o’r enw Antiverse wedi ymuno ag Arloesedd Caerdydd.

Mae Antiverse yn ceisio llywio dyfodol y maes​ darganfod​ cyffuriau, a’i nod cyffredinol yw creu triniaethau therapiwtig newydd ​a all newid cwrs ​bywydau pobl. Mae Antiverse yn defnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol i wneud y gorau o waith darganfod cyffuriau a’i symud yn ei flaen. Ar y cyfan, mae’n helpu i leihau’r amser y mae’n ei gymryd i ddarganfod cyffuriau, gwella ansawdd cynhyrchion biolegol therapiwtig a chynyddu’r tebygolrwydd y bydd​ prosiectau ymchwil a datblygu’n​ llwyddo.​     ​

Ac yntau wedi’i sefydlu yn 2017 gan y peirianwyr Murat Tunaboylu a Ben Holland, mae gan Antiverse yr ​​enw o fod yn un o’r prif gwmnïau biodechnoleg newydd yn y DU. Mae ei wasanaeth darganfod gwrthgyrff eisoes yn cael ei ddefnyddio gan y diwydiant fferyllol byd-eang.

Dywedodd Ben Holland: “Mae Antiverse yn fusnes gwirioneddol gydweithredol. Rydym yn dod â diddordeb arbenigol mewn bioleg strwythurol, dysgu peirianyddol a meddygaeth ynghyd, wrth i ni geisio torri tir newydd ym maes darganfod cyffuriau.

“Dyna pam rydym yn falch iawn o ymuno ag Arloesedd Caerdydd. Mae’r Brifysgol nid yn unig yn ein galluogi i ddefnyddio’r ymchwil arbenigol sy’n sail i’n gwaith ond hefyd yn cynnig gwasanaethau busnes yn rhan o’n tenantiaeth, gan gynnwys agosrwydd at gynghorwyr arbenigol a graddedigion entrepreneuraidd talentog, mannau cydweithio, ystafelloedd cyfarfod a chyfleusterau cynadledda o’r radd flaenaf.”

Mae Antiverse yn gweithio gyda gwyddonwyr labordy i greu ​gwrthgyrff​ posibl i’w targedu â thriniaethau therapiwtig, a hynny drwy ddefnyddio ei system darganfod cyffuriau sy’n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial estynedig. Drwy ddatblygu celloedd â nifer uchel o dderbynyddion, mae’n gallu sgrinio’r ​gwrthgyrff​ posibl hyn er mwyn nodi’r ​​rhwymwyr mwyaf effeithiol a chreu rhyngwyneb arloesol ar gyfer gwaith darganfod biolegol ​drwy ​ddefnyddio dylanwad a galluoedd datblygol deallusrwydd artiffisial.

Dywedodd Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Gweithrediadau Arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae Antiverse ​wedi ​bod yn rhan o gymuned Prifysgol Caerdydd ers 2020, ar ôl iddo symud i Medicentre Caerdydd – menter ar y cyd rhwng y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

“Mae Antiverse nid yn unig wedi ffynnu ac yn barod i ehangu, ond mae hefyd yn dewis aros gyda’r Brifysgol drwy gymryd lle mwy o faint yn Arloesedd Caerdydd.

“Mae Arloesedd Caerdydd yn llenwi tua hanner adeilad trawiadol sbarc|spark. Mae’n gartref i gwmnïau sy’n gweithio o labordai ym maes y gwyddorau bywyd, yn ogystal â busnesau technoleg a thwf uchel sy’n gweithio o swyddfeydd.

“Mae gwaith Antiverse yn rhychwantu arbenigedd mewnol yn y labordy i ddysgu peirianyddol o’r radd flaenaf, sy’n creu partneriaeth wych. Rydym yn falch iawn o’i groesawu i’r teulu.”

Mae Arloesedd Caerdydd@sbarc yn lle gwag 17,500 troedfedd sgwâr sy’n ymestyn dros bedwar llawr. Mae’n cynnwys swyddfeydd y gellir eu rhentu, mannau cyfarfod ffurfiol ac anffurfiol, cyfleusterau cynadledda o’r radd flaenaf, labordai gwlyb a mannau arddangos/cyflwyno ar y cyd, gan gynnwys man cynadledda ar gyfer hyd at 200 o bobl.

I gael rhagor o wybodaeth am Arloesedd Caerdydd, ebostiwch sbarcinnovations@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.