Ewch i’r prif gynnwys

Bwrdd yn cyfarfod i adolygu darpariaeth y gwasanaeth presennol ar gyfer pobl ifanc a dyfodol prosiect cymorth lles digidol newydd

27 Ionawr 2023

People on laptops

Y mis hwn, cyfarfu aelodau'r Bwrdd Gweithredu ac Ymgysylltu (IEB), gan gynnwys cynrychiolwyr ieuenctid, clinigwyr y GIG, partneriaid trydydd sector a chynghorwyr o Lywodraeth Cymru i drafod prosiectau ymchwil parhaus yng Nghanolfan Wolfson ac adolygiad o wasanaethau cwnsela mewn ysgolion a'r gymuned.

Ymunodd Dr Rhiannon Evans â'r cyfarfod i gyflwyno canfyddiadau o'r 'Adolygiad o wasanaethau cwnsela mewn ysgolion a'r gymuned' yng Nghymru. Mae'r adolygiad yn ystyried sut y gellir optimeiddio modelau cyfredol ac yn argymell gwasanaeth estynedig i blant mor ifanc â phedair oed. Mae Dr Evans yn argymell dull gweithredu aml-gam i ddatblygu, treialu, profi a mireinio gwasanaethau cwnsela i blant a phobl ifanc yng Nghymru “- gan ddechrau gyda nifer fach o ardaloedd awdurdodau lleol, cyn eu cyflwyno ledled Cymru.”

Rhoddodd Dr Rhys Bevan-Jones y wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio a dichonoldeb rhaglen ddigidol newydd 'MoodHwb', a fydd yn darparu 'cefnogaeth ddigidol i bobl ifanc gyda'u hwyliau a'u lles'. Disgwylir i'r rhaglen gael ei threialu mewn ysgolion, gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol ac elusennau yng Nghymru a'r Alban. Mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth hon, gan gynnwys sut y gallwch gymryd rhan ar gael ar wefan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.

Roedd y bwrdd hefyd yn falch o longyfarch Catrin, aelod sefydledig o Grŵp Cynghori Ieuenctid Wolfson ac ychwanegiad newydd i'r Bwrdd:

“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod un o'n pobl ifanc, Catrin, wedi derbyn cynnig ffurfiol i ddod yn aelod o'r Bwrdd ar ein Bwrdd Gweithredu ac Ymgysylltu (IEB). Bydd Catrin yn graddio o'n grŵp cynghori y flwyddyn nesaf, felly mae'n wych ei gweld yn ymgymryd â'r rôl newydd hon ac yn parhau i roi mewnwelediad amhrisiadwy ar brofiadau byw pobl ifanc.”

Dywedodd Catrin, “Rwyf wrth fy modd gyda'r YAG ac roeddwn eisiau datblygu fy rhan yn y Ganolfan a'i gwaith. Rwy'n teimlo y gall fy mhrofiadau personol a phroffesiynol ddylanwadu'n gadarnhaol ar y bwrdd a chynnig persbectif gwahanol. Rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu at y Bwrdd a dysgu mwy am y tu mewn a'r tu allan i fwrdd fel hwn.”

Dywedodd Emma, ein harweinydd Cynnwys y Cyhoedd “Rwyf wrth fy modd yn cefnogi Catrin dros y misoedd nesaf wrth iddi ymgartrefu yn y rôl. Mae sicrhau bod gan bobl ifanc sedd wrth y bwrdd yn y mathau hyn o gyfarfodydd yn allweddol i ethos y Ganolfan ac edrychaf ymlaen at y cyfraniad y bydd Catrin yn ei wneud dros y misoedd nesaf.”
Emma Meilak Public Involvement Officer / Administrative Officer, Wolfson Centre for Young People's Mental Health

Rhannu’r stori hon