Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr israddedig o Gaerdydd yn ennill gwobr Myfyriwr y Gyfraith y Flwyddyn

19 Rhagfyr 2022

La'Shaunna Williamson yng Ngwobrau Cenedlaethol Menywod Ysbrydoledig yn y Gyfraith gyda Kate Vyvyan, Partner yn Clifford Chance LLP.
La'Shaunna Williamson yng Ngwobrau Cenedlaethol Menywod Ysbrydoledig yn y Gyfraith gyda Kate Vyvyan, Partner yn Clifford Chance LLP.

Mae myfyriwr o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi ei henwi'n Fyfyriwr y Gyfraith y Flwyddyn mewn seremoni wobrwyo genedlaethol sy'n tynnu sylw at waith arloeswyr yn sector y gyfraith.

Cyflwynwyd gwobr Myfyriwr y Gyfraith y Flwyddyn, y wobr gyntaf o'i math, i La'Shaunna Williamson o Dudley, Gorllewin Canolbarth Lloegr, sydd yn ei thrydedd flwyddyn, yng Ngwobrau Cenedlaethol Menywod Ysbrydoledig yn y Gyfraith a gynhaliwyd yn Llundain ar 1 Tachwedd 2022.

Mae'r gwobrau, sydd yn eu seithfed flwyddyn, yn dathlu gwaith unigolion o bob rhan o broffesiwn y gyfraith sy'n arwain y ffordd o ran gwella cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae'r gwobrau'n cydnabod y rhai sy'n rhagori yn eu meysydd ymarfer ac sy'n gweithio dros y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod menywod sy'n gweithio yn y gyfraith yn gallu ffynnu.

Dechreuodd llwybr La'Shaunna i'r gyfraith yn gynnar yn dilyn profiad gwaith ysbrydoledig mewn ward mamolaeth a chanolfan i'r deillion lle datblygodd ddiddordeb yn elfennau cyfreithiol gofal. Yn drasig, lladdwyd tad La'Shaunna mewn damwain ffordd a chadarnhaodd y cysylltiad a gafodd â byd y gyfraith yn ystod y profiad hwnnw iddi ei bod am helpu pobl ym mha yrfa bynnag y byddai'n mynd iddi'n ddiweddarach mewn bywyd.

Ers dechrau astudio yng Nghaerdydd, mae La'Shaunna wedi ymdaflu i bob agwedd ar fywyd y brifysgol. Hi yw Llywydd a Sylfaenydd Cymdeithas Menywod yn y Gyfraith a chyd-sylfaenydd y Gymdeithas Ymwybyddiaeth Fasnachol. Mae'n aelod gweithgar o Gymdeithas y Gyfraith Caerdydd, yn gyn Ysgrifennydd a Chynrychiolydd y Flwyddyn Gyntaf, yn fentor, yn llysgennad i gwmnïau a sefydliadau cyfreithiol amrywiol ac yn gyd-arweinydd blog a chynnwys ar gyfer The Neurodiverse Lawyer Project. Mae'r prosiect a'r podlediad yn siarad â gwahanol feddylwyr amrywiol am eu profiadau ac yn cynnig awgrymiadau, cipolygon a syniadau wrth drafod pynciau fel niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl yn y gwaith, y brifysgol a phrosesau cyflogaeth.

Wrth siarad am y prosiect, dywedodd La'Shaunna, “Mae'r tîm wedi gweithio i ddiwygio'r prosesau ymgeisio ar gyfer contractau hyfforddi trwy gael sgyrsiau gyda chwmnïau a sefydliadau cyfraith y cylch hud. Rwy'n helpu lleisiau i gael eu clywed trwy ein gwefan, lle gallan nhw gyflwyno eu herthyglau i'w rhannu a'u huwchlwytho. Mae'r erthyglau hyn yn ein helpu i greu'r newid sydd ei angen er mwyn i broffesiwn y gyfraith fod yr un mor amrywiol a chynhwysol yn y dyfodol.”

Ar ôl gadael y brifysgol bydd La'Shaunna yn dechrau contract hyfforddi yn Acuity Law yn 2024, gyda'r nod o ddod yn gyfreithiwr corfforaethol masnachol cymwysedig. Mae hi hefyd yn gobeithio parhau i weithio gydag elusennau a sefydliadau i helpu i greu newid a gweithio gydag ysgolion i dynnu sylw at broffesiwn y gyfraith fel gyrfa gyraeddadwy. Ar hyn o bryd mae hi ar ei Blwyddyn ar Leoliad Paragyfreithiol Proffesiynol gyda'r Cyfreithwyr Watkins a Gunn, lle mae'n aelod gweithredol o'r pwyllgor ar eu his-bwyllgorau 'Watkins and One’, '’Watkins and Give’, a 'Wellness and Gunn.' Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cynnig y flwyddyn lleoliad cystadleuol i fyfyrwyr ail flwyddyn er mwyn iddynt gael profiad o ymarfer cyfreithiol.

“Wrth dyfu i fyny, roeddwn i'n gweithio mewn amryw o swyddi rhan-amser, y llynedd gweithiais mewn 5 swydd i  fy nghynnal fy hun yn y brifysgol. Rwyf wedi bod mor benderfynol o drefnu fy nhaith fy hun i broffesiwn y gyfraith ond hefyd wthio'n galed i sicrhau bod mwy o bobl o gefndiroedd amrywiol a menywod i gyd yn gallu codi yn y proffesiwn. Rwyf i mor ddiolchgar nad yw'r gwaith rwyf i'n ei wneud yn cael ei anwybyddu. Daeth fy mam gyda fi i'r seremoni wobrwyo. Roedd yn brofiad emosiynol iawn iddi ac fe griodd pan dderbyniais i'r wobr. Roeddwn i'n teimlo'n falch o fy llwyddiant, a hoffwn ddiolch i fy mam; hi yw fy model rôl cryfaf. Rwy'n annog mwy o bobl sydd â diddordeb yn y gyfraith i ddal ati, mae lle i bawb ym mhroffesiwn y gyfraith.”

Rhannu’r stori hon