Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan ymchwil iechyd meddwl o'r radd flaenaf i ddod yn Ganolfan ym Mhrifysgol Caerdydd

29 Tachwedd 2022

young woman in lab coat and blue gloves holding a pipette tray up to the light

Yn dilyn degawd o gyllid gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), bydd y Ganolfan ar gyfer Genomeg a Geneteg Niwroseiciatrig nawr yn dod yn un o Ganolfannau Prifysgol Caerdydd.

Y Ganolfan ar gyfer Genomeg a Geneteg Niwroseiciatrig (CNGG), a sefydlwyd yn 2009, oedd y ganolfan MRC gyntaf yng Nghymru ac fe'i hystyrir yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer y DU. Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth ddatblygiadau sylweddol wrth ddeall rhai o achosion anhwylderau seiciatrig, niwroddatblygiadol a niwroddirywiol.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro James Walters: "Mae’r Ganolfan wedi bod ar flaen y gad o ran gwneud canfyddiadau arwyddocaol ym maes geneteg niwroseiciatrig dros y degawd diwethaf, gan gynhyrchu gwybodaeth dra phwysig ynghylch cyflyrau iechyd meddwl a dementia.

Daeth yr Athro Walters yn gyfarwyddwr CNGG ar ddiwedd 2019; cyn hynny, yr Athro Syr Michael Owen oedd wrth y llyw, ac fe lywiodd ddegawd o ddarganfod.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, fel llawer o'r byd, mae'r Ganolfan wedi addasu i weithio mewn amodau heriol a digynsail er mwyn parhau â'n hymchwil. Hoffwn ddiolch i'n hymchwilwyr a'n staff am eu dyfalbarhad a'u creadigrwydd wrth ddelio â'r heriau niferus sydd wedi codi.
Yr Athro James Walters Clinical Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Mae llawer o ymchwil y Ganolfan wedi canolbwyntio ar ffactorau risg yn ymwneud â geneteg ar gyfer anhwylderau megis sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, clefyd Alzheimer ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).

Mae gwyddonwyr y Ganolfan hefyd wedi bod yn arloesi o ran astudiaethau sy’n edrych ar orgyffwrdd genetig rhwng anhwylderau. Mae i hyn oblygiadau pwysig o ran y modd rydym yn gwneud diagnosis ar gyfer anhwylderau meddyliol. Mae’r tîm hefyd wedi nodi meysydd biolegol newydd all fod yn dargedau posibl ar gyfer triniaethau newydd.

Mae'r Ganolfan wedi cyhoeddi dros 1,900 o bapurau, ac mae’n cydweithio’n weithredol â dros 70 o ymchwilwyr o bob cwr o’r byd.

Canfyddiadau arwyddocaol

2010

canfod amrywiadau genetig prin sy'n cynyddu'r risg o ADHD

2013

arwain astudiaeth ryngwladol a ddaeth o hyd i 11 genyn newydd sy’n ymwneud â rhagdueddiad o ran clefyd Alzheimer

2014

wedi nodi 108 ardal newydd ar y genom sy'n gysylltiedig â sgitsoffrenia

2015

edi nodi addaswyr geneteg yn ymwneud â chlefyd Huntington

2016

wedi canfod ffactorau sy'n cynyddu gwydnwch mewn pobl ifanc sydd â risg teuluol uchel o iselder

2018

wedi cyhoeddi'r astudiaeth fwyaf ym maes genomeg ynghylch sgitsoffrenia, gan nodi 50 o loci ychwanegol

2019

wedi canfod bod dileadau a dyblygiadau prin mewn DNA yn gyfrifol am ystod o anawsterau datblygiadol ymhlith plant

2021

wedi darganfod cysylltiad rhwng sgitsoffrenia ac anhwylderau niwroddatblygiadol

Yn ôl yr Athro Walters: "Bydd y Ganolfan yn parhau i fuddsoddi yn y staff a'r adnoddau gwych yng Nghaerdydd er mwyn arwain ymchwil ryngwladol ym maes geneteg gan ddefnyddio'r wybodaeth sy’n deillio o’r ymchwil hon i wella bywydau'r rheiny sydd â chyflyrau iechyd meddwl a niwrolegol."

Arddangos ymchwil CNGG

Gwyliwch Arddangosfa Ymchwil CNGG

O 1 Rhagfyr 2022, enw’r Ganolfan fydd: Y Ganolfan ar gyfer Genoeg a Geneteg Niwroseiciatrig. Bydd lansiad a dathliad i nodi'r cyfnod pontio yn cael ei gynnal yn gynnar yn 2023.

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith cyfredol:

Rhannu’r stori hon