Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn cynhyrchu £3.7bn i economi'r DU

24 Hydref 2022

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynhyrchu mwy o arian i economi'r DU nag erioed o'r blaen.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (24 Hydref 2022) gan London Economics — un o ymgynghoriaethau economeg a pholisi arbenigol mwyaf blaenllaw Ewrop — yn dangos bod Caerdydd wedi cyfrannu £3.68 biliwn at economi'r DU mewn un flwyddyn.

Yr asesiad ar gyfer 2020-21 yw'r uchaf ers i'r Brifysgol ddechrau cofnodi ei heffaith economaidd yn ôl yn 2012/13 ac mae'n gyfystyr â chynnydd o 6% mewn termau real o'i gymharu â'r arolwg diwethaf yn 2016-17.

Cynhyrchodd ansawdd addysgu a dysgu'r Brifysgol £1.22bn; roedd gweithgareddau cyfnewid ymchwil a gwybodaeth yn cyfrif am £831 miliwn, a chafodd £970m ei greu gan weithgarwch a gwariant cyfalaf y sefydliad ei hun, gyda'i 33,000 o fyfyrwyr a bron 7,000 o staff. Cyfrannodd allforion addysgol — ar ffurf gwariant myfyrwyr rhyngwladol — £655 miliwn pellach.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae graddfa lawn effaith economaidd a chymdeithasol Prifysgol Caerdydd ar y DU, ac ar Gymru yn benodol, yn syfrdanol.

“Amcangyfrifir mai bron £3.7 biliwn yw cyfanswm ein heffaith economaidd ar y DU yn 2020-21 — ar anterth y pandemig. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynhyrchu £6.40 am bob £1 a wariwn ni, gan berfformio'n sylweddol well na'r sefydliadau cymharol sydd, ar gyfartaledd, yn cynhyrchu £5.50 am bob £1 a warir. Rydym yn taro’n uwch na’n pwysau, ac mae'r buddion yn cronni i bobl y wlad hon, i'n cymunedau ac i'r trethdalwr.”

Gellir gweld enghraifft ragorol o gyfraniad y Brifysgol at gydbwysedd masnach y DU yng ngwerth allforion addysgol sydd, ar £655 miliwn, yn rhagori ar berfformiad allforio'r diwydiant ceir a cherbydau eraill yng Nghymru, yn ôl data masnach ranbarthol Cyllid a Thollau EM.

Yn ogystal â chyflogi bron 7,000 o bobl yn uniongyrchol, mae gweithgareddau Caerdydd yn cefnogi 7,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn pellach yn y DU.

“Dyna gyfanswm o dros 14,000 o bobl sydd â swyddi oherwydd yr ymchwil, yr addysgu, y gwaith gyda'r diwydiant a'r gweithrediadau cyffredinol rydyn ni'n eu cynnal ym Mhrifysgol Caerdydd,” meddai'r Athro Riordan, “ac mae bron i 10,000 o'r swyddi hyn wedi'u lleoli yng Nghymru.”

Mae Caerdydd yn creu effaith economaidd yn weddol gyfartal ar draws ei gweithgareddau: mae ymchwil a gwybodaeth yn cynhyrchu 23%; mae gweithgareddau addysgu a dysgu yn cyfrif am 33%; mae allforion addysgol yn cyfrif am 18%, gyda'r 26% sy'n weddill yn deillio o wariant uniongyrchol ac anuniongyrchol.

“Ar draws holl balet ein gweithgarwch, mae Prifysgol Caerdydd yn creu budd economaidd a chymdeithasol i Gymru, y DU, ac i'r byd mewn gwirionedd. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae prifysgolion yn wynebu heriau enfawr ynghylch sut y gellir gwneud ein model ariannu yn fwy cynaliadwy. Rhaid i ni sicrhau bod ein haddysgu a'n hymchwil yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi gan y llywodraeth ar bob lefel. Os gellir mynd i'r afael â'r heriau ariannu, credwn y gallwn wneud hyd yn oed mwy yn y blynyddoedd i ddod.”

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.