Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr israddedig yw'r awdur cyntaf ar bapur sy'n datgelu diffygion mewn tryloywder ynghylch profi anifeiliaid

14 Hydref 2022

Martina Bonassera

Canfu ymchwil Martina Bonassera amrywiad sylweddol o ran adrodd ar arferion lles anifeiliaid mewn profion labordy

Byddai'r rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig yn falch o gael eu henwi fel awdur ar bapur ymchwil gwyddonol - rhywbeth sy'n llawer mwy cyffredin i'r rhai sy'n ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig. Mae hyn yn gwneud cyflawniad Martina Bonassera o gyhoeddi ei phapur cyntaf a adolygwyd gan gymheiriaid fel awdur cyntaf (neu arweiniol) yn ystod ei BSc mewn Biocemeg hyd yn oed yn fwy trawiadol.

Canolbwyntiodd ymchwil Martina ar dryloywder o fewn ysgrifennu gwyddonol, yn benodol ym maes profi anifeiliaid. Rhaid i ymchwilwyr sy'n cynnal ymchwil fiolegol ar anifeiliaid gwblhau dogfennau cyfreithiol a elwir yn Grynodebau Annhechnegol (NTS), gan ddisgrifio triniaeth yr anifeiliaid dan sylw ac effeithiau unrhyw weithdrefnau arnynt. Rhaid iddynt ddangos sut maent yn bwriadu gweithredu'r tair R (amnewid, lleihau a mireinio defnydd anifeiliaid) yn eu harbrofion.

Ymchwiliodd Martina i weld a yw NTS yn wirioneddol dryloyw ac yn hyrwyddo didwylledd i'r gymuned leyg ynghylch defnyddio profion anifeiliaid mewn labordai, yn benodol, dadansoddi anifeiliaid prawf a ddefnyddir ar gyfer ymchwil anadlol. Gan mai clefyd anadlol yw'r ail achos marwolaeth mwyaf yn fyd-eang, mae'r gwaith labordy yn y maes hwn yn sylweddol.

Canfu Martina fod cryn dipyn o amrywiad o ran tryloywder NTS a datblygodd argymhellion ar gyfer gwella. Mae hi'n gobeithio y bydd yr astudiaeth yn codi ymwybyddiaeth o'r angen am dryloywder mewn ysgrifennu gwyddonol, a bydd effaith y canfyddiadau yn cyfrannu at ddatblygu triniaethau mwy effeithiol ar gyfer clefydau anadlol, tra'n gwneud y mwyaf o les anifeiliaid.

Dywedodd Martina: “Ni ddylai cyhoeddi fod yn ddyhead ôl-raddedig yn unig. Os ydych yn fyfyriwr BSc sy'n benderfynol o gyhoeddi, gallwch wneud hynny! Ystyriwch brosiectau ymchwil sy'n ysgogi eich chwilfrydedd a gwnewch gais am ysgoloriaethau a ariennir a fyddai'n gallu cefnogi eich astudiaeth.”

Ychwanegodd Dr Kelly BéruBé, Cyfarwyddwr Grŵp Ymchwil yr Ysgyfaint a Gronynnau yn Ysgol y Biowyddorau, a goruchwyliwr Martina: “Er bod cyhoeddi fel myfyriwr israddedig yn llai cyffredin nag ar gyfer myfyrwyr graddedig, mae'n gwbl bosibl, a byddwn yn annog myfyrwyr i ddilyn ôl troed Martina. Mae'r profiad o gynnal ymchwil annibynnol a chyhoeddi canfyddiadau rhywun yn ysbrydoledig ac wrth gwrs bydd yn cynorthwyo myfyrwyr sy'n chwilio am addysg ôl-raddedig”.

Noddwyd yr astudiaeth, ‘Transparency in Non-Technical Project Summaries to Promote the Three Rs in Respiratory Disease Research’ yn ariannol gan Wobr Ysgoloriaeth Haf FRAME, a enillodd Martina yn 2020, ac fe'i cyhoeddir yn y cyfnodolyn ATLA.

Dywedodd Amy Beale, Pennaeth Polisi a Rhaglenni FRAME, elusen annibynnol sy'n ceisio disodli defnydd anifeiliaid ar gyfer arbrofion meddygol drwy ymchwilio i ddewisiadau amgen dilys, gwyddonol: "Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi prosiect Martina gydag un o'n gwobrau Efrydiaeth Haf.

"Mae tryloywder mewn ymchwil mor bwysig, mae'n cynorthwyo cynnydd gwyddonol ac yn galluogi craffu ar waith i sicrhau bod ymchwil yn gadarn ac yn atgynyrchadwy. Mae cyfrifoldeb moesegol, a chyfreithiol, i sicrhau bod prosiectau ymchwil anifeiliaid yn berthnasol ac yn wyddonol angenrheidiol. Mewn geiriau eraill os gellir ymchwilio i'r cwestiwn ymchwil mewn ffyrdd eraill, ni ddylid trwyddedu'r prosiect ymchwil anifeiliaid."

"Mae hwn yn bwynt cymhleth i brofi'r naill ffordd neu'r llall, ac mae'r NTS yn gam pwysig wrth rannu'r cyfiawnhad hwn yn gyhoeddus. Gweithiodd Martina'n galed ar gael ei phrosiect i'r cam hwn ac mae'n gyflawniad gwirioneddol cael ei chyhoeddiad cyntaf mewn cyfnodolyn gwyddonol a adolygir gan gymheiriaid mor gynnar yn ei gyrfa ymchwil."

Graddiodd Martina ym mis Gorffennaf 2022 ac mae bellach yn ymgymryd â phrosiect PhD yn Sefydliad Biocemeg ETH Zurich yn y Swistir.

Rhannu’r stori hon