Ewch i’r prif gynnwys

Asesu cynlluniau treth y DG am yr effaith ar Gymru

23 Medi 2022

Ar ddiwrnod y digwyddiad cyllidol mwyaf arwyddocaol ers hanner can mlynedd, fe gynhyrchodd tîm Dadansoddi Cyllid Cymru esboniad o'r effeithiau dosbarthiadol ar drethdalwyr Cymru.

Canfu tîm Dadansoddi Cyllid Cymru, sy'n rhan o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, y bydd y 9,000 o drethdalwyr ar gyfradd ychwanegol sy'n byw yng Nghymru (y rhai sy'n ennill mwy na £150,000 y flwyddyn) yn elwa o £45 miliwn (£5,000 yr un ar gyfartaledd) o ddiddymu'r gyfradd dreth uchaf (45%) o Ebrill 2023 ymlaen.

Ar y cyfan, bydd bron i 90% o'r enillion o'r toriadau treth personol yn mynd i gartrefi yn 50% uchaf y dosbarthiad incwm. Bydd y 10% cyfoethocaf o aelwydydd yn unig yn gweld 40% o'r enillion.

Oherwydd toriad yn y raddfa sylfaenol ac effaith newidiadau eraill ar y cyfan, efallai y byddai cartref cyfartalog Cymru'n disgwyl arbed swm ychydig yn fwy cymedrol o £400 y flwyddyn nesaf.

Cyfeiriodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans AS, at yr ymchwil yn ei Datganiad Ysgrifenedig ar unwaith i ymateb i'r cyhoeddiad, ac yn nadl ddilynol y Senedd.

Awgrymodd Ms Evans:
"... doedd Llywodraeth y DG ddim wedi darparu dadansoddiad dosbarthiadol ochr yn ochr â'r gyllideb fel y gallem weld yn glir iawn yr effaith y byddai'n ei chael ar y gwahanol ddosbarthiadau incwm ar draws y DG. Doedden nhw ddim wedi gwneud y gwaith hwnnw, ond, wrth gwrs, mae Dadansoddi Cyllid Cymru wedi gwneud gwaith i'n helpu ni i ddeall beth mae'n ei olygu i ni yma yng Nghymru, ac fe rannais i beth o hynny â chi yn gynharach heddiw."

Mae disgwyl mwy o effeithiau ar y ffordd mae grant bloc Cymru'n cael ei gyfrifo, ac ar wariant ar wasanaethau cyhoeddus.

Mae'r dadansoddiad o gyllideb fach Llywodraeth y DG ar gael yma.

Rhannu’r stori hon