Graddedigion iau yn dathlu llwyddiannau Prifysgol y Plant
26 July 2022

Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynnal seremoni raddio wahanol i’r arfer – un ar gyfer plant o bob rhan o'r ddinas.
Gwisgodd y disgyblion o bedair ysgol gynradd gapiau a gwisgoedd academaidd traddodiadol i nodi eu bod wedi cwblhau cynllun newydd a gynlluniwyd i annog a datblygu cariad at ddysgu. Mae’r bobl ifanc erbyn hyn yn raddedigion o Brifysgol y Plant, elusen sy'n helpu i roi cyfleoedd allgyrsiol er mwyn astudio pynciau gwahanol, dysgu sgiliau newydd a datblygu'r rheini sydd ganddyn nhw eisoes.
Mae dros 400 o blant o Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair yn Butetown, Ysgol Gynradd Sain Ffagan, Ysgol Gynradd Peter Lea yn y Tyllgoed ac Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelái wedi cymryd rhan yn y cynllun peilot hwn.
Rhoddodd y cyfle i ddisgyblion gymryd rhan mewn mwy na 90 o weithgareddau gwahanol, megis dosbarthiadau ffitrwydd, gwersi celf a cherddoriaeth, modiwlau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn ogystal â chyrsiau dylunio graffeg a diwylliannol. Wrth i'r plant gymryd rhan, roedd eu gweithgareddau yn cyfrannu tuag at 'Basport i fyd Dysgu' ac, yn y pen draw, at seremoni raddio, gyda’r 20% uchaf o’r cyfranogwyr ym mhob ysgol yn bresennol.
Dywedodd Nicki Prichard, Pennaeth Ysgol y Santes Fair, fod y cynllun wedi bod yn llwyddiant ysgubol. "Fe wnaeth tua 100 o'n disgyblion Blynyddoedd Pedwar a Phump gymryd rhan. Cawsom ymweliadau anhygoel gan yr Athro Paul Roche a ddangosodd delesgopau a chamerâu is-goch i ni ac a roddodd ddealltwriaeth newydd o’r gofod i'n plant. Yr un mor bwysig, fe wnaeth sesiynau Prifysgol y Plant helpu ein plant i ddysgu am greadigrwydd, gwaith tîm a phwysigrwydd cydweithio."

Mae'r ysgol, sydd ymhlith y rhai mwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yn y ddinas ac sydd â 75% o ddisgyblion â Saesneg fel iaith ychwanegol, wedi ennill statws Ysgol Noddfa yn ddiweddar, i gydnabod ei gwaith gyda phlant sy'n ffoaduriaid. Mae dalgylch yr ysgol ymhlith y 10% uchaf yng Nghymru o ran amddifadedd.
Ychwanegodd Nicki: "Hoffai’r Ysgol ddweud diolch o'r galon am yr holl amser, meddwl, ymdrech ac egni a aeth i mewn i'r Seremoni Raddio. Roedd yn wych ei gweld yn dod yn fyw mewn ffordd mor ysbrydoledig. Nid ein plant yn unig a ysbrydolwyd gan eich ymdrechion - hwn oedd profiad cyntaf ein rhieni o addysg uwch, ac os ydym am gyrraedd ein dysgwyr presennol, rydym yn gwybod bod angen i ni gyrraedd eu teuluoedd. Yr wythnos hon, maen nhw wedi gweld, gwybod a theimlo beth mae bod yn rhan o brifysgol yn ei olygu, yn ogystal â’r balchder a'r ymdeimlad o gyflawniad a ddaw yn sgîl hynny. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Phrifysgol y Plant, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Caerdydd."
Meddai'r Athro Les Baillie o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd: "Er bod Prifysgol Caerdydd yn cynrychioli ein dinas ar lwyfan y byd, mae ganddi hefyd rôl i'w chwarae yn cefnogi dyheadau pobl ifanc Caerdydd. Mae Prifysgol y Plant yn rhoi cyfleoedd i blant lleol ennill sgiliau academaidd o’n cymunedau amrywiol a allai eu galluogi i astudio yn eu prifysgol ryw ddydd.”

Meddai'r Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd ac aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: “Rwyf wrth fy modd bod yr ysgolion wedi bod mor frwd wrth groesawu'r cynllun ac rydym nawr yn bwriadu ei estyn i roi cyfle i bob ysgol yng Nghaerdydd gymryd rhan o fis Medi ymlaen.
“Mae gwneud yn siŵr bod Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu yn parhau’n uchel ar ein hagenda, a thrwy wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau'r ddinas a'r cyfleoedd gwych sydd ar gael trwy ein partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, gallwn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc trwy ddarpariaeth hynod amrywiol, y gall rhannau ohoni fod y tu hwnt i’w cyrraedd fel arfer.”
Ychwanegodd yr Athro Baillie: "Diolch i waith tîm o wirfoddolwyr gwych o'r Ysgol Fferylliaeth, y Genhadaeth Ddinesig, Ystadau ac Ehangu Cyfranogiad, cafwyd adborth hynod gadarnhaol gan aelodau o'r teulu, athrawon a chynrychiolwyr y cyngor ar Seremoni Raddio’r Plant. I lawer ohonynt, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw fod ar gampws y Brifysgol. Rydym yn edrych ymlaen at weld o leiaf rai o'r plant hynny a raddiodd o Brifysgol y Plant yn dychwelyd i raddio o Brifysgol Caerdydd, a mynd ati i fod yn sêr y dyfodol yn ôl pob tebyg."