Ewch i’r prif gynnwys

Canfu astudiaeth fod offeryn 'Goleuadau Traffig' a ddefnyddir gan feddygon teulu i asesu plant sy'n ddifrifol sâl yn 'annibynadwy'

29 Mawrth 2022

Mae'n bosibl na fydd offeryn a ddefnyddir gan feddygon teulu i helpu i adnabod plant sy'n ddifrifol sâl yn canfod neu'n eithrio salwch aciwt yn gywir, yn ôl gwerthusiad gan ddefnyddio data meddygfeydd y DU.

Asesodd yr astudiaeth, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, ddata mwy na 6,700 o achosion a daeth i'r casgliad “na ellir dibynnu ar” system Goleuadau Traffig y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ac mae'n “anaddas” i'w defnyddio’n offeryn ar gyfer penderfyniadau clinigol.

Cyhoeddir y canfyddiadau yn y British Journal of General Practice.

Dyma a ddywedodd y prif awdur Amy Clark, myfyrwraig feddygol yn y flwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd: “Canfu ein hastudiaeth nad yw'r offeryn ar ei ben ei hun yn gallu adnabod, gyda digon o gywirdeb, y plant hynny sydd â salwch difrifol, na chwaith y rheiny y gellir eu rheoli'n ddiogel gartref. Mae offeryn gofal sylfaenol cywir yn hanfodol i helpu meddygon teulu i wneud y penderfyniad cywir i sicrhau bod plant sâl yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw, tra'n osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty.

“Bellach, mae angen rhagor o ymchwil i ddiweddaru neu ddisodli'r offeryn hwn. Mae'r angen hwn wedi mynd yn bwysicach fyth yn ystod pandemig COVID-19, yn enwedig ar ôl llacio cyfyngiadau sydd wedi arwain at gynnydd mewn salwch anadlol ymhlith plant ifanc a galw mawr am ofal brys, er gwaethaf y ffaith nad yw llawer ohonyn nhw’n ddifrifol wael*.”

Mae plant yn cyfrif am oddeutu 40% o lwyth gwaith meddygon teulu ar gyfartaledd, a bydd plant dan bump oed yn dod i’r feddygfa chwe gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd. Bydd mwy na dwy filiwn o blant o dan bump oed yn mynd i adrannau brys ysbytai bob blwyddyn.

Er mwyn helpu meddygon teulu i asesu plant, creodd NICE yr offeryn Goleuadau Traffig sy'n grwpio symptomau'n wyrdd, yn oren neu’n goch, sy'n cyfateb i lefel isel (rheoli gartref), canolradd (gellir ei gyfeirio i'r ysbyty neu ei anfon adref gan roi cyngor), neu risg uchel o salwch difrifol (cyfeirio ar frys i'r ysbyty).

Mae'r offeryn, a ddefnyddir i asesu plant sâl o dan bump oed, wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers 15 mlynedd bellach. Mae astudiaethau blaenorol wedi gwerthuso’r defnydd ohono yn achos plant sydd eisoes mewn ysbytai, ond dyma'r astudiaeth gyntaf i asesu ei gywirdeb gan ddefnyddio data gan blant sy'n destun ymgynghoriad ym meddygfeydd y DU.

Cysylltodd yr ymchwilwyr ddata gan feddygon teulu â derbyniadau i'r ysbyty ar gyfer 6,703 o blant yng Nghymru a Lloegr i asesu a oedd categorïau’r goleuadau traffig yn cyfateb i ddifrifoldeb eu salwch. Prif ddiddordeb yr ymchwil oedd salwch difrifol a gafodd ddiagnosis mewn ysbyty cyn pen saith diwrnod wedi ymweliad â'r meddyg teulu.

Canfuon nhw’r canlynol:

  • Roedd tua 32% (2,116) o blant yn cael eu categoreiddio'n goch - ond dim ond 0.5% (10) o'r rhain oedd â salwch difrifol a oedd yn golygu bod angen mynd i'r ysbyty;
  • Cafodd mwyafrif y plant eu categoreiddio'n ambr – tua 63% (4,204) a dim ond 6% (383) oedd wedi'u labelu'n wyrdd;
  • Roedd gan gategori coch yr offeryn sensitifrwydd (sef gallu'r offeryn i adnabod plant a dderbyniwyd i'r ysbyty â salwch difrifol yn gywir) o 58.8% a phenodoldeb (sef gallu'r offeryn i adnabod plant heb eu derbyn i'r ysbyty â salwch difrifol yn gywir) o 68.5%;
  • Gwnaeth cyfuno'r categorïau coch ac ambr wella'r sensitifrwydd i 100% (fodd bynnag, roedd yn lleihau’r penodoldeb i ddim ond 5.7%);
  • Yn gyffredinol, mae nifer yr achosion o salwch difrifol ymhlith plant sy'n dod i feddygfeydd yn isel, sef dim ond 0.3%.

“Mae ein hymchwil yn awgrymu y byddai meddygon teulu, pe baen nhw wedi dilyn offeryn Goleuadau Traffig NICE, wedi cyfeirio traean o'r holl blant (sef y rheiny sy'n cael eu categoreiddio’n 'goch') i'r ysbyty ar frys, er bod gan y rhan fwyaf o'r plant hyn salwch hunan-gyfyngol ysgafn,” meddai Ms Clark.

“Byddai defnyddio 'coch' neu 'ambr' yn drothwy yn sicrhau nad oedd unrhyw blant difrifol wael yn cael eu colli, ond ar gost cyfeirio nifer sylweddol o blant at yr ysbyty.”

Dyma a ddywedodd Dr Kathryn Hughes, cyd-awdur yr astudiaeth ac uwch-ddarlithydd clinigol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Roedd yn syndod mawr inni nad yw'r offeryn hwn erioed wedi'i ddilysu ym meddygfeydd y DU, er iddo gael ei argymell mewn canllawiau ers 2007. Mae asesiadau cywir mewn meddygfeydd hefyd yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gall gwasanaethau gofal eilaidd weithio'n effeithiol.”

Ychwanegodd Ms Clark: “Rydyn ni’n credu bod ein canlyniadau'n bwysig nid yn unig i feddygon teulu, ond hefyd i hyfforddeion a myfyrwyr sydd yn aml yn dysgu'r system asesu hon yn ystod eu hyfforddiant. Gallai system newydd a chywirach helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol iau i fagu hyder wrth asesu plant sy’n sâl.”

Rhannu’r stori hon