Ewch i’r prif gynnwys

"Roeddwn i’n gallu ailafael yn y plentyndod roeddwn i mewn perygl o’i golli"

22 Mawrth 2022

"Bydda i'n rhedeg yn Hanner Marathon Caerdydd, mewn rhyw ffordd fach, i geisio cydnabod a chyfrannu at y gwaith arwrol y mae Prifysgol Caerdydd yn ei wneud. Cefais i fy magu gan fy mam a oedd wedi dioddef o anafiadau niwrolegol difrifol pan oeddwn i’n ifanc iawn. Achubodd yr ymchwil arloesol a wnaeth staff Prifysgol Caerdydd ei bywyd, ac oherwydd hynny roeddwn i’n gallu ailafael yn y plentyndod roeddwn i mewn perygl o’i golli. Braint yw gallu ad-dalu hynny drwy redeg er anrhydedd i staff y brifysgol ac i fy mam."

_____________________________________________

Pan oedd Siân McCarthy (BA 2005, TAR 2006) yn blentyn, dioddefodd ei mam ddamwain taro a ffoi.

Wedyn cafwyd blynyddoedd o gamddiagnosis a phoen gronig, hyd nes i niwrolawfeddyg yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd ddarganfod bod ei mam wedi torri ei phenglog. Roedd y torasgwrn yn achosi niwed difrifol i'r nerfau yn y benglog a niwralgia trigeminol – cyflwr sy'n achosi poen sydyn yn yr wyneb.

Ers hynny, mae mam Siân wedi elwa ar ymchwil arloesol i niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bellach, ac er mwyn codi arian at yr ymchwil a helpodd ei mam, mae Sian yn rhedeg yn Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff, sef grŵp o staff, myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a ffrindiau Prifysgol Caerdydd sy'n anelu at godi £70,000 ar gyfer ymchwil i niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl yn ogystal ag ymchwil i ganser.

"Rwy eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r tîm sy'n parhau i drin fy mam heddiw a phobl eraill sy'n dioddef," meddai Siân, sy'n Gynorthwyydd Llyfrgell yn y Brifysgol.

______________________________________________

Dechreuodd Siân redeg ychydig o flynyddoedd yn ôl: "O bryd i'w gilydd byddwn i'n codi o’r soffa i geisio rhedeg 5km, ond ro'n i bob amser fel petawn i'n rhoi'r gorau iddi hanner ffordd drwodd", meddai Siân.

"Ar ôl rhoi genedigaeth i fy ail blentyn, roeddwn i'n benderfynol o gychwyn ‘o’r soffa i redeg 5km’. Dyna oedd yr un peth yr oeddwn i’n gallu ei wneud ar yr un pryd â gofalu am fy mhlant ifanc ac a oedd yn rhad ac am ddim, ar garreg fy nrws, ac yn bwysicach na hynny, rhoddodd y cyfle a'r amser yr oedd eu hangen arno i i ganolbwyntio arno i fy hun a chael gwared, gobeithio, ar rywfaint o bwysau yn sgîl geni’r baban. Ac wyddoch chi beth?... Fe wnes i ei gwblhau cyn pen naw wythnos a dyna pryd y dechreuodd fy nghariad at redeg.

"Galla i bellach gyfaddef imi fy hun a phobl eraill yn hyderus fy mod i’n rhedwr. Mae rhedeg wedi rhoi'r cyfle imi gyflawni rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi meddwl ei fod yn bosibl. Rwy’n rhyfeddu at fy nghorff a'r ffaith fy mod i bellach yn fwy heini nac erioed."

Bydd Sian yn un o’r 350 o aelodau o #TeamCardiff a fydd yn cymryd rhan yn y ras ddydd Sul 27 Mawrth, sef Sul y Mamau.

"Bydda i’n rhedeg yr hanner marathon dros fy mam ac i gydnabod ei thaith ddewr drwy salwch a sawl tro trwstan. Mae hefyd yn ffordd imi o’r diwedd roi rhywbeth yn ôl i ymchwil Prifysgol Caerdydd, sef achos da sydd wedi effeithio arno i fy hun a'm teulu mewn ffordd mor bersonol. O dipyn i beth a gyda'n gilydd gallwn ni gefnogi ymchwil hynod bwysig a allai arwain at iacháu rhywun neu, fel yn achos fy mam, ffordd o fyw sy’n golygu llai o boen. Mae hynny, yn fy marn i, yn beth amhrisiadwy," meddai Siân.

Gallwch chi gefnogi ymdrechion Siân i godi arian yma.

Rhannu’r stori hon