Ewch i’r prif gynnwys

Wythnos Cynaliadwyedd 2022

17 Mawrth 2022

Eleni, cynhelir Wythnos Cynaliadwyedd flynyddol y Brifysgol rhwng 21 a 25 Mawrth 2022.

Fel rhan o'r wythnos, bydd staff a myfyrwyr yn gallu dysgu mwy am nod y Brifysgol i fod yn garbon niwtral erbyn 2030, gwirio eu beiciau a chael marc diogelwch arnynt, a chymryd rhan mewn archwiliad coed campws. Dyma’r rhestr lawn o ddigwyddiadau sydd ar y gweill:

Dywedodd yr Athro Mike Bruford, Deon dros Gynaliadwyedd Amgylcheddol: "Mae Wythnos Cynaliadwyedd yn gyfle i dynnu sylw at ein hymchwil a'n haddysgu ym maes cynaliadwyedd. Mae hefyd yn ein galluogi i ddangos sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd ar draws y campws i hyrwyddo agenda datblygu cynaliadwy'r Brifysgol."

Cynhelir digwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein ac maent yn agored i staff a myfyrwyr. Rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar y gweill a sut y gallwch gadw eich lle.

Rhannu’r stori hon