Ewch i’r prif gynnwys

Mae microsgop yn cynnig delweddu o'r radd flaenaf un

14 Mawrth 2022

Mae microsgop electronau o'r radd flaenaf un gyda'r pŵer i ddelweddu'r atom wedi cyrraedd Canolfan Ymchwil Drosi (TRH) Prifysgol Caerdydd.

Yr offeryn, a elwir yn Ficrosgop Trawsyrru Electronau sy’n sganio Egwyriannau Cywiredig neu AC-STEM, yw'r cyntaf o’i fath yng Nghymru — ac yn un o lond llaw yn unig yn y DU.

Arbenigwyr Thermo Fisher Scientific Ltd sydd wedi darparu microsgop Spectra 200. Bydd yn cael ei gartrefu yn yr adeilad Microsgopeg Electronau gwerth £9M yn Sefydliad Catalysis Prifysgol Caerdydd ger y TRH, lle bydd ymchwilwyr yn cydweithio â byd diwydiant i ddatblygu uwch-dechnolegau.

Bydd y microsgop yn caniatáu i wyddonwyr o Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) a'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS) feithrin yr enw da rhyngwladol sydd ganddyn nhw ym maes datblygu catalyddion a dyfeisiau newydd â microsglodion.

Video

Dyma a ddywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor Recriwtio Myfyrwyr Rhyngwladol a Myfyrwyr y DU a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg:

“Yr AC-STEM yw trysor ein huned microsgopeg newydd, a fydd hefyd yn ailgartrefu pob un o’n microsgopau electronau CCI presennol o dan yr un to mewn cyfleuster microsgopeg pwrpasol a ddyluniwyd i fod yn hynod dawel, wedi’i gysgodi yn electromagnetig ac yn rhydd o ddirgryniadau.

“Bydd yr adeilad yn cael ei rannu â chyfleuster gwyddoniaeth arwynebau rhagorol Prifysgol Caerdydd a fydd yn gartref i Ficrosgop Grym Ffoto-anwythol (PIFM) cyntaf y DU ym maes topograffeg nano a sbectrosgopeg ddirgrynol, ynghyd â Spectrosgopeg Uwch-Flaenau Raman (TERS) newydd, a sbectrosgopeg ffotoelectronau pelydr-X (XPS) Prifysgol Caerdydd sydd eisoes yn hynod adnabyddus.

Yn sgîl gosod yr offerynnau, y technegau a’r arbenigeddau o'r radd flaenaf hyn o dan yr un to, bydd gennym ganolfan unigryw ym maes delweddu deunyddiau a dadansoddi sbectrosgopig.

Thermo Fisher Scientific yw'r arweinydd yn y byd o ran gwasanaethu byd gwyddoniaeth, a thua $40 biliwn yw eu refeniw blynyddol. Cenhadaeth y cwmni yw galluogi ei gwsmeriaid i wneud y byd yn iachach, yn lanach ac yn fwy diogel.

Dyma a ddywedodd Robbie O'Connell, Rheolwr Cyfrifon Gwerthu, Thermo Fisher Scientific: “Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda Phrifysgol Caerdydd i gyflenwi ein Microsgop Trawsyrru Electronau sy’n sganio Egwyriannau Cywiredig (AC-STEM). Bydd yr offeryn penigamp hwn yn caniatáu i ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Drosi (TRH) newydd y Brifysgol feithrin yr enw da byd-enwog sydd ganddi ym maes datblygu catalyddion newydd. “

Mae cael y microsgop wedi bod yn bosibl diolch i fuddsoddiad gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), CCAUC a Sefydliad Wolfson.

Rhannu’r stori hon