Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn archwilio Symptomau ADHD “sy’n datblygu yn hwyrach” – sef ymhlith oedolion ifanc

7 Mawrth 2022

A diverse group of young adults work together around a table

Ar hyn o bryd mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn cael ei ystyried yn gyflwr sy'n dechrau yn ystod plentyndod. Er mwyn cael diagnosis, mae’n ofynnol i symptomau fod yn amlwg cyn i’r plentyn fod yn ddeuddeg oed. Mae ymchwil yn awgrymu, fodd bynnag, y gallai symptomau ADHD ddod i'r amlwg am y tro cyntaf, yn ystod llencyndod neu pan yn oedolyn, i rai.

Mae ymchwilwyr o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc wedi ymgymryd â gwaith i ddod i ddeall a yw, ADHD a ddaw’n amlwg am y tro cyntaf ar ôl plentyndod – yn aml fe’i gelwir yn ADHD “sy’n datblygu’n hwyrach” – yn debyg i ADHD sy'n dechrau yn ystod plentyndod, neu a yw’n fath gwahanol o gyflwr, megis iselder – sydd hefyd fel arfer yn dod i’r amlwg am y tro cyntaf yn ystod llencyndod neu pan mae’r person yn oedolyn.

Yn yr astudiaeth, sydd yn digwydd dan arweiniad Dr Lucy Riglin a'r Athro Anita Thapar, defnyddiwyd sampl eang o bobl ifanc o’r boblogaeth yn gyffredinol – pobl sydd wedi bod yn rhan o astudiaeth ymchwil ers cyn iddynt gael eu geni: Astudiaeth Hydredol Avon o Rieni a Phlant (ALSPAC).

Dywedodd Dr Riglin: “Fe archwilion ni a oedd ADHD sy’n dechrau’n hwyrach, yn gysylltiedig â, mesurau rydyn ni eisoes yn ymwybodol eu bod yn ymwneud â ADHD, a rheini sy’n gysylltiedig ag iselder. Fe wnaethon ni brofion hefyd i weld a oedd rhagor o adnoddau plentyndod megis y gallu i siarad, y gallu i ddarllen, incwm y teulu ac addysg y fam yn gohirio pryd mae symptomau ADHD yn dechrau.

Fe welodd yr ymchwilwyr bod nodweddion ADHD sy’n dechrau’n hwyrach yn debyg i rai ADHD sy’n dechrau yn ystod plentyndod, pan fo rhieni’n tynnu sylw at y cyflwr ADHD ar eu plant (yn 25 oed). Nid yw hyn yn wir pan fo person sydd â’r cyflwr ADHD sy’n datblygu’n hwyrach yn nodi’r nodweddion drostynt eu hunain. Roedd cysylltiadau hefyd rhwng ADHD sy’n datblygu’n hwyrach â lefelau uwch o adnoddau plentyndod, ac nid oedd yn dangos nodweddion tebyg i rai iselder.

Ychwanegodd Dr Riglin: Mae’n canfyddiadau’n awgrymu bod ADHD sy’n dechrau’n hwyrach yn debyg i ADHD sy’n effeithio ar blant, o ran disgrifiad rhieni ohono, felly, gallai adroddiadau rhieni fod o gymorth wrth ei asesu, hyd yn oed ymhlith oedolion ifanc.

“Mae’n hastudiaeth yn awgrymu y gallai rhagor o adnoddau plentyndod ohirio dechrau’r anhwylder ond y gallai symptomau ddod i’r amlwg wedyn o ganlyniad i ragor o bwysau cymdeithasol ac addysgol (megis arholiadau, pontio o’r ysgol a charu) a’r duedd i adnoddau’r teulu fod yn llai dylanwadol."

Mae gan y gwaith hwn oblygiadau clinigol a pholisi pwysig, ac mae'n ein hatgoffa efallai na fydd y rhai sydd ag ADHD yn adrodd hanes o anawsterau yn ystod plentyndod. Mae ADHD yn cael effaith gymdeithasol, iechyd ac economaidd gydol oes, ac mae i hynny oblygiadau sy´n effeithio ar wasanaethau a pholisïau ynghylch niwroamrywiaeth.
Dr Lucy Riglin Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Mae’r papur, “Late-onset” ADHD symptoms in young adulthood: Is this ADHD?, wedi ei gyhoeddi yng Nghyfnodolyn SAGE, ac ar gael i'w weld ar-lein.

Rhannu’r stori hon