Ewch i’r prif gynnwys

Treialu dyfais sy’n iacháu clwyfau

16 Rhagfyr 2021

Bydd partneriaeth rhwng Huntleigh Heathcare Ltd, Cyflymydd Arloesedd Clinigol Prifysgol Caerdydd (CIA) a Chanolfan Arloesedd Clwyfau Cymru (WWIC) yn gwerthuso dyfais newydd sy’n iacháu clwyfau.

Bydd y treial rheoli ar hap, ar y cyd ag Accelerate Cymru, yn pennu effaith y ddyfais ar glwyfau cronig nad ydyn nhw’n iacháu, yn benodol wlserau gwythiennol y goes.

Mae Huntleigh Healthcare wedi datblygu dyfais cywasgu niwmatig ysbeidiol (IPC) arloesol (WoundExpress ™) sy'n cywasgu clun y goes sy’n dioddef (cywasgu procsimol) i ffwrdd o'r mannau hynny ar y goes lle mae’r wlserau o dan y pen-glin.

Mae astudiaethau peilot llai wedi dangos defnyddioldeb y ddyfais ar y cyd â gofal clwyfau safonol.

Dyma a ddywedodd Jane Davies, Rheolwr Cymorth Clinigol, Huntleigh Healthcare: “Mae ein cwmni yn gwerthfawrogi’n fawr iawn y cyfle i gydweithio â’n cydweithwyr uchel eu parch yn Accelerate, Prifysgol Caerdydd a WWIC. Mae eu harbenigedd a'u cymorth yn amhrisiadwy wrth inni weithio gyda'n gilydd ar y prosiect ymchwil pwysig hwn gyda'r nod o wella bywydau'r rheiny sy'n dioddef o wlseru ar y goes is. "

Mae amlder cynyddol clwyfau cronig yn cael ei gydnabod yn fater gofal iechyd sydd ar gynydd yn fyd-eang gan fod nifer yr achosion o glwyfau nad ydyn nhw’n iacháu yn cynyddu oherwydd bod y boblogaeth yn mynd yn hŷn ac oherwydd y cynnydd yn nifer yr achosion o ddiabetes a gordewdra.

Dywedodd yr Athro Keith Harding, Cyfarwyddwr Meddygol Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru, fod y treial yn cynnig y gobaith y bydd cleifion yn gallu gwella eu clwyfau yn gyflymach gyda llawer llai o boen ac anesmwythyd.

“Prosiect â gwreiddiau Cymreig cryf yw hwn. Lleolir tîm Huntleigh, sy'n gwneud y ddyfais ac sy’n berchen ar yr eiddo deallusol sy'n gysylltiedig â WoundExpress™, yng Nghaerdydd ac mae tîm clinigol Canolfan Arloesi Clwyfau Cymru yn Llantrisant.

“Mae'r partneriaid academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac erbyn hyn mae gennym ganolfannau sy'n recriwtio cleifion i gymryd rhan yn yr astudiaeth glinigol mewn sawl gwlad ledled Ewrop.

“Enghraifft wych yw hyn o sut y gall rhaglen Accelerate ymgymryd â gwaith heriol a allai weddnewid agwedd bwysig ar ofal clinigol.”

Amcangyfrifir mai’r gost y flwyddyn i drin clwyfau cronig yn y DU yw £2-3 biliwn (sef 3-5% o wariant y GIG).  Amcangyfrifir bod y GIG yn rheoli 278,000 o wlserau gwythiennol y goes (VLU) bob blwyddyn, ac nid yw 47% (130,660) o’r rhain yn gwella cyn pen 12 mis.

Bydd yr Arbrawf Rheoli ar hap (RCT) ar raddfa fawr ar waith ar draws 4 gwlad a bydd hyd at 10 safle ledled y DU ac Ewrop yn asesu'r dystiolaeth glinigol i gefnogi dyfais WoundExpress ™.

Rhannu’r stori hon