Ewch i’r prif gynnwys

Cyd-gynhyrchiad gyda phobl ifanc ar waith mewn canolfan ymchwil

15 Rhagfyr 2021

A group of friends sit in a coffee shop

Mae Canolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson wedi dechrau ar waith cyd-gynhyrchu gydag aelodau o Grwpiau Cynghori Ieuenctid y ganolfan ymchwil.

Mae'r Grwpiau Cynghori Ieuenctid sy'n cynnwys pobl ifanc 14-25 oed sydd â phrofiad o fyw gydag iechyd meddwl, wedi cyfarfod yn fisol ers mis Medi ac mae'r grwpiau'n cynnig arweiniad ar ymchwil a blaenoriaethau parhaus Canolfan Wolfson.

Dywedodd Emma Meilak o Ganolfan Wolfson, sy'n hwyluso'r grwpiau: "Mae ein Grwpiau Cynghori Ieuenctid eisoes wedi cyflawni llawer iawn yn ystod eu misoedd cyntaf o weithredu.

"Mae ein cynghorwyr ieuenctid wedi partneru gyda ni ar greu blog, ymgynghori ar ein strategaeth marchnata cymdeithasol ac wedi cynllunio graffeg ar gyfer ein Hadduned Grŵp, yn ogystal â chyfrannu a rhannu eu profiadau yn ein cyfarfodydd misol. Roeddem hefyd wrth ein boddau bod ein gwaith cyd-gynhyrchu parhaus wedi'i gydnabod gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl yn Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle, yn y Senedd fis diwethaf."

Ychwanegodd Becs Parker, swyddog cyfathrebu Canolfan Wolfson: "Mae gwaith y Cynghorwyr Ieuenctid hyd yma wedi bod yn amhrisiadwy ac rydym yn llawn cyffro i barhau i ddatblygu sgiliau'r grwpiau drwy gyfleoedd hyfforddi newydd dros y misoedd nesaf.  Allwn ni ddim aros i weld sut y byddan nhw'n parhau i ddod â'u creadigrwydd a'u brwdfrydedd, nid yn unig drwy lywio ein hymchwil ond hefyd mewn cydweithrediadau creadigol pellach gyda ni fydd yn cefnogi gwaith y Ganolfan gyfan. Mwy yn y man!”

Fel y dywedodd Emma Meilak: "Mae wedi bod yn fraint dod i adnabod ein Cynghorwyr Ieuenctid dros y misoedd diwethaf ac rydym ni'n cynllunio blwyddyn gyffrous i'r grwpiau yn 2022.

"Mae mor bwysig i ni sicrhau bod lleisiau a safbwyntiau pobl ifanc wrth wraidd ein gwaith yma yng Nghanolfan Wolfson a dim ond y dechrau yw'r allbynnau creadigol hyn ar ein partneriaeth gydweithredol a chyffrous gyda phobl ifanc."

Roedd y blog cyntaf gan un o'r Cynghorwyr Ieuenctid, In my own words: Stigma, yn canolbwyntio ar thema stigma iechyd meddwl, yn dilyn cyfarfod o Grŵp Cynghori Ieuenctid ar y pwnc fis diwethaf. Bydd argymhellion y bobl ifanc o'r sesiwn yn ffurfio sail ar gyfer trafodaeth yng nghyfarfod nesaf Bwrdd Gweithredu ac Ymgysylltu'r Ganolfan ym mis Ionawr 2022.

Bydd blog Canolfan Wolfson yn parhau i ddatblygu a dyma'r lle gorau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a gaiff ei greu mewn partneriaeth gyda phobl ifanc.

Rhannu’r stori hon

Darganfyddwch fwy o gynnwys a phostiadau blog gwreiddiol, wedi'u cyd-gynhyrchu mewn partneriaeth ag aelodau o Grwpiau Cynghori Ieuenctid y Ganolfan.