Ewch i’r prif gynnwys

Hwb i gyllideb Cymru – ond pwysau ar gostau byw ar y gorwel

28 Hydref 2021

Bydd Cymru hefyd yn elwa o £200m o ganlyniad i’r setliad datganoli trethi

Bydd cyllideb Cymru yn derbyn hwb o £1.6bn yn 2022-23 o ganlyniad i gyllideb y DG ddoe, yn ôl adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd. Ond bydd pwysau sylweddol ar gostau byw y gaeaf hwn, gydag aelwydydd yn wynebu cynnydd mewn prisiau nwy a thrydan.

Heddiw, mae ymchwilwyr o brosiect Dadansoddi Cyllid Cymru wedi cyhoeddi eu dadansoddiad annibynnol o gyhoeddiadau'r Canghellor a'u goblygiadau ar gyfer Cymru.

Mae rhagolygon cyllideb Cymru wedi eu trawsnewid ers mis Mawrth 2021, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DG ei chynlluniau blaenorol. Nawr, mae disgwyl i wariant craidd, dydd-i-ddydd Llywodraeth Cymru, ac eithrio cyllid Covid-19, dyfu o 3.1% y flwyddyn ar gyfartaledd mewn termau real rhwng 2021-22 a 2024-25.

Fe wnaeth y Gyllideb hefyd gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £314 miliwn ychwanegol i ariannu gwariant dydd-i-ddydd ar yr ymateb Covid-19 yn 2021-22, gan ddod â'r cyfanswm sydd ar gael y flwyddyn hon i £2.9 biliwn.

Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ddifidend datganoli trethi disgwyliedig, gan danlinellu effaith cadarnhaol trosglwyddo pwerau trethi i Lywodraeth Cymru a'r Senedd. Mae rhagolygon sydd newydd eu cyhoeddi yn cyfeirio at berfformiad cryf cyfraddau Treth Incwm Cymru a'r Dreth Trafodiadau Tir, sy'n golygu y gallai Cymru, erbyn 2024-25, fod £200m y flwyddyn yn well ei byd na phe na bai'r trethi hynny wedi'u datganoli.

Fodd bynnag, hyd yn oed ar ôl y newidiadau a gyhoeddwyd i Gredyd Cynhwysol, bydd aelwydydd Cymru ym mhob degwm incwm yn dal i fod yn waeth eu byd nag y byddent pe bai'r cynnydd o £20 yr wythnos wedi'i adfer yn lle hynny. Mae pryder hefyd y bydd pwysau sylweddol ar gostau byw oherwydd y cynnydd mewn prisiau ynni.

Dywedodd Guto Ifan:

“Mae ein dadansoddiad yn dangos bod y cynnydd mewn gwariant ar y GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn Lloegr wedi rhoi hwb i gyllideb Cymru. Mae’n ymddangos fel fod Llywodraeth y DG yn cefnu ar bolisïau llymder ariannol a oedd yn eu lle yn ystod y ddegawd cyn y pandemig.

“Ond mae pwysau ar gostau byw yn bryder enfawr ac fe allai’r misoedd nesaf fod yn gyfnod caled i aelwydydd yng Nghymru.

“Mae ffrydiau gwariant newydd ledled y DG fel y Gronfa Codi’r Gwastad wedi dechrau dod i rym, er yn y pen draw, mae maint cymharol fach y cronfeydd hyn yn golygu mai beth sy’n digwydd i wariant cyhoeddus sy’n cael ei yrru drwy’r fformiwla Barnett sydd fwyaf arwyddocaol.

“Mae’r hwb i’r gyllideb o ganlyniad i ddatganoli trethi hefyd i’w groesawu. Bydd datganoli trethi, efallai yn groes i rai disgwyliadau, yn debygol o fod yn fuddiol i gyllideb Cymru.

“Wrth i Lywodraeth Cymru lunio ei chynlluniau cyllidebol ei hun dros y misoedd nesaf, bydd angen cydbwyso’r heriau ariannol sy’n wynebu’r GIG, llawer o feysydd eraill o wariant, yn ogystal â’r pryderon ynghylch effaith chwyddiant ar aelwydydd difreintiedig.”

Rhannu’r stori hon