Ewch i’r prif gynnwys

Papur ymchwil newydd yn archwilio'r gwahaniaethau mewn iselder yn y glasoed

19 Hydref 2021

Young boy lies on bed with homework

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Wolfson wedi ymgymryd â gwaith i ddeall y gwahaniaethau sy'n bodoli mewn iselder yn ystod glasoed. Mae rhai pobl ifanc sy'n profi iselder yn ystod eu harddegau'n gwella ac yn gwneud yn dda yn eu bywyd fel oedolion, ond i bobl ifanc eraill, gall iselder barhau ac amharu ar addysg, perthnasoedd a gwaith.

Mewn papur a gyhoeddwyd yn The Lancet Psychiatry, bu tîm o ymchwilwyr yng Nghanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson ym Mhrifysgol Caerdydd yn dadansoddi data dros 4000 o bobl ifanc i ddeall yn well pam fod rhai pobl ifanc ag iselder yn gwella tra bo eraill yn parhau i ddangos anawsterau.

Dywedodd yr ymchwilydd Bryony Weavers, prif awdur y papur: "Iselder yw un o brif achosion anabledd yn fyd-eang, ac yn aml mae'n dechrau yn ystod glasoed. Edrychwyd ar ddata o Astudiaeth Hydredol Avon o Rieni a Phlant oedd yn asesu symptomau iselder ymhlith pobl ifanc rhwng 10 a 25 oed."

Defnyddiodd yr ymchwilwyr dechneg o'r enw dadansoddiad twf dosbarth cudd i adnabod grŵp o bobl ifanc yr oedd eu symptomau o iselder yn dangos patrymau gwahanol dros amser. Nododd yr astudiaeth nifer o wahaniaethau rhwng iselder a barhaodd mewn oedolion ifanc ac iselder oedd wedi gwella erbyn yr ugeiniau cynnar.

Ychwanegodd Bryony: "Gwelsom fod iselder parhaus yn fwy tebygol o ddechrau'n gynharach yn ystod glasoed a'i fod yn gysylltiedig â phrofiadau anodd yn ystod plentyndod (fel tlodi, cam-drin, gwrthdaro rhieni a bwlio) oedd yn parhau mewn bywyd fel oedolyn, tuedd enetig gryfach at iselder a pheidio â gwneud gystal yn academaidd yn ystod TGAU a Safon Uwch, o'i gymharu ag iselder oedd yn gwella.

"Roedd iselder parhaus hefyd yn gysylltiedig â chanlyniadau gwael ym mywyd cynnar oedolion, fel diweithdra, cyfraddau uchel o hunan-niweidio ac anawsterau iechyd meddwl cyffredinol. Doedd iselder oedd yn gwella ddim yn gysylltiedig â'r canlyniadau negyddol hyn i oedolion, gan awgrymu bod yr unigolion hynny'n gweithredu gystal â'r rheini nad oedden nhw erioed wedi profi iselder."

Mae gallu adnabod pobl ifanc sydd mewn perygl o ddatblygu iselder difrifol, parhaus, yn gallu helpu clinigwyr i ddarparu ymyriadau cynnar angenrheidiol i'r rheini sydd eu hangen fwyaf, ac felly atal pobl ifanc rhag dangos anawsterau sy'n estyn i mewn i'w bywyd fel oedolion.

Fel y casglodd Bryony: "Bydd yr ymchwil yn helpu i lunio polisïau a theilwra gwasanaethau yn y dyfodol i bobl ifanc sy'n profi iselder ac fe edrychwn ymlaen at barhau i weithio yma yng Nghanolfan Wolfson yn cynnal ymchwil fydd yn llywio maes iechyd meddwl ieuenctid a gwella bywydau pobl ifanc sy'n byw gydag iselder."

Cyhoeddir y papur “The antecedents and outcomes of persistent and remitting adolescent depressive symptom trajectories: a longitudinal, population-based English study” yn The Lancet Psychiatry ac mae i'w weld ar-lein.

Rhannu’r stori hon