Ewch i’r prif gynnwys

Sôn am Straeon Caerdydd yn cyhoeddi tymor newydd o'r clwb llyfrau poblogaidd sydd ychydig yn wahanol

13 Hydref 2021

Arbenigwyr llenyddol i rannu cipolwg ar y clasuron a'r llyfrau arobryn diweddaraf, gyda sylw i argyfwng y ffoaduriaid gan ohebydd tramor sydd bellach yn nofelydd

Yn dilyn ei ddegfed tymor, y gorau erioed, mae Sôn am Straeon Caerdydd yn ôl gyda llu o deitlau ynghyd â'r arbenigedd sy'n golygu bod y gyfres boblogaidd yn glwb darllen gwahanol i'r arfer.

A hwythau wedi cyrraedd dros 940 o bobl o bob cwr o'r byd yn eu switsh rhithwir yn 2020, mae'r tîm Sôn am Straeon yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth wrth eu bodd gyda'r rhaglen eleni, gydag awduron yn amrywio o Bernadine Evaristo i Kazuo Ishiguro, ynghyd â theitlau newydd a chipolwg ar addasu clasur i'r sgrin fawr.

Gan adlewyrchu ystyriaethau byd-eang cyfoes, mae'r tymor yn agor gyda chyn-ohebydd tramor y BBC Emma Jane Kirby yn sgwrsio gyda Tom Davies o Amnest Rhyngwladol am ei nofel The Optician of Lampedusa. Mae'r sesiwn Sôn am Straeon arbennig hon yn fenter ar y cyd gyda Chlwb Llyfrau Hawliau Dynol Amnest Rhyngwladol.

Gyda'i hadroddiadau llinell flaen o Fôr y Canoldir a glywid yn aml ar The World at One PM yn gefndir i'w gwaith, mae nofel amserol Kirby yn taflu goleuni ar argyfwng parhaus y ffoaduriaid a'r trasiedi dyngarol torcalonnus ar garreg drws Ewrop, gan adrodd yn glir stori wir am Eidalwr cyffredin oedd yn achub mudwyr oedd yn boddi.

Yng ngweddill y gyfres, mae timau o arbenigwyr yn dilyn fformat poblogaidd Sôn am Straeon Caerdydd, gan rannu eu dealltwriaeth a'u safbwyntiau ar bob testun a ddewisir.

Ym mis Tachwedd, rhoddir sylw i The Power and the Glory gan Graham Greene, gyda thri arbenigwr yn rhannu eu cariad at Greene, ei rym rhyfeddol fel storïwr a ffocws y nofel a gyhoeddwyd yn 1940 ar grefydd.

Ym mis Rhagfyr, ceir golwg ar The Green Knight sydd yn y sinemâu nawr, gyda Dev Patel yn serennu, ochr yn ochr â'i ysbrydoliaeth o'r 14eg ganrif, Sir Gawain and the Green Knight.

Wrth edrych ymlaen at 2022, bydd Sôn am Straeon Caerdydd yn rhoi sylw i Like Any Other Woman gan Jac Saorsa, Klara and the Sun gan Kazuo Ishiguro, Girl, Woman, Other gan Bernardine Evaristoac A Clockwork Orange gan Anthony Burgess.

Mae trefnydd Sôn am Straeon Dr Anna Mercer yn edrych ymlaen at weld y gyfres boblogaidd yn parhau i roi sylw i amrywiaeth cyffrous o dalentau ysgrifennu newydd ac uchel eu parch i gynulleidfaoedd yn fyd-eang. Ychwanega:

"Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi croesawu pobl i Sôn am Straeon a siaradwyr o bob cwr o’r byd wrth i ni wneud y switsh rhithwir i ddod ag arbenigwyr difyr i gartrefi a sgriniau yn ystod y pandemig. Y tymor hwn rydym wedi paratoi cyfres sy'n cynnwys awgrymiadau gan ein cynulleidfaoedd, yn dathlu talent newydd a chyhoeddiadau diweddar, ac sydd hefyd yn edrych ar rai testunau clasurol o'r ugeinfed ganrif a hyd yn oed cerdd o'r 14eg ganrif."

Mae digwyddiadau Sôn am Straeon Caerdydd yn dechrau am 7pm oni nodir yn wahanol, gan barhau ar-lein tan o leiaf fis Chwefror 2022. Mae cofrestru ar-lein ymlaen llaw yn hanfodol ar gyfer pob sesiwn Sôn am Straeon Caerdydd. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i flog Sôn am Straeon Caerdydd, chwiliwch am #CardiffBookTalk neu dilynwch ar Twitter neu Facebook.

Mae recordiadau o dymor hynod boblogaidd 2020 yn dal i fod ar gael ar-lein yn y rhestr chwarae Sôn am Straeon Caerdydd.

Dyddiadau 2021-2022 Sôn am Straeon Caerdydd

Hydref

The Optician of Lampedusa gan Emma-Jane Kirby [21 Hydref 2021]

Gydag Emma-Jane Kirby a Rheolwr Ymgyrch Amnest Rhyngwladol Tom Davies

Tachwedd

The Power and the Glory gan Graham Greene [17 Tachwedd]

Siaradwyr: Yuliya Kazanova, Martyn Sampson, Jon Wise

Rhagfyr

Y Green Knight[2021, ffilm a gyfarwyddwyd gan David Lowery]/Sir Gawain and the Green Knight [8 Rhagfyr, nodwch bod yr amser wedi newid i 12pm GMT])

Siaradwyr: Tison Pugh, Sabina Rahman, Usha Vishnuvajjala

2022

  • Like Any Other Woman gan Jac Saorsa (dyddiad i’w gadarnhau), gyda’r awdur

  • Klara and the Sun gan Kazuo Ishiguro (dyddiad i'w gadarnhau)

  • Girl, Woman, Other gan Bernardine Evaristo (dyddiad i’w gadarnhau)

  • A Clockwork Orange gan Anthony Burgess (dyddiad i'w gadarnhau)

Rhannu’r stori hon