Ewch i’r prif gynnwys

Datgelu effaith dofi ar faint llygaid eogiaid yr Iwerydd

29 Medi 2021

SalmonFarmed
©Dr William Perry

Dros 15 cenhedlaeth o fridio eogiaid mewn caethiwed ar gyfer bwyd, mae eogiaid sy’n cael eu ffermio wedi datblygu llygaid llai nag eogiaid gwyllt, a allai leihau eu gallu i oroesi wrth ddianc o gaethiwed, ac achosi canlyniadau negyddol i’w hepil.

Mae Dr William Perry, ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y Sefydliad Ymchwil Dŵr, yn rhan o dîm rhyngwladol o ymchwilwyr sy’n ymchwilio i faint llygaid pysgod sy’n cael eu ffermio. Bu’r tîm yn bridio eogiaid o gefndir wedi’i ffermio, cefndir gwyllt a chefndir hybrid (ffermio a gwyllt) ar yr un pryd o wyau mewn tanciau yn y Sefydliad Ymchwil Forol, Norwy, a’r Sefydliad Morol, Iwerddon, ac yn Afon Srahrevagh, Iwerddon. Yna mesurwyd maint llygaid yng nghyfnodau dŵr croyw a dŵr heli bywyd yr eogiaid.

Yn yr holl arbrofion mewn tanciau yn Norwy ac Iwerddon, canfu’r ymchwilwyr fod gan y pysgod a ffermiwyd lygaid llai mewn perthynas â maint y corff, o’u cymharu â’u cymheiriaid gwyllt. Er eu bod wedi cael eu magu o dan yr un amodau yn union, cafwyd bod gan bysgod hybrid faint llygaid canolig. Yn ddiddorol, o fagu’r pysgod yn yr afon, ni welwyd gwahaniaethau ym maint llygaid eogiaid gwyllt a rhai wedi’u ffermio, a allai olygu bod y pysgod llygaid bach a ffermiwyd yn methu goroesi yn y gwyllt.

Yn ôl Dr William Perry: 'Roedd yn gyffrous darganfod y ffaith bod maint llygaid pysgod a ffermiwyd yn lleihau’n enetig, ond roedd y ffaith nad oedd hyn i’w weld ymhlith eogiaid a fagwyd yn yr afon yn ddiddorol dros ben.'

Nid yw’n hysbys eto pa elfen o ffermio pysgod a allai fod wedi achosi i faint y llygaid leihau fel hyn, ond gallai ymwneud â’r ffaith bod gofynion egni tyfu llygaid yn ddrud iawn, a’r ffaith nad oes angen llygaid da ar eogiaid i hela na dianc rhag ysglyfaethwyr mewn caethiwed. Mae bwyd yn ymddangos yn awtomatig, a chedwir ysglyfaethwyr allan.

Roedden ni’n credu bod pysgod â llygaid llai yn llai addas ar gyfer bywyd gwyllt ac yn methu cael hyd i fwyd na dianc rhag pig miniog crëyr! Pan fyddan nhw mewn caethiwed, does dim rhaid i’r eogiaid ddelio â’r pwysau hyn.

Dr William Perry Research Associate

Esboniad arall posibl fyddai bod llygaid llai yn ymateb i straen, neu i’r goleuadau artiffisial a ddefnyddir wrth ddyframaethu. Gallai’r ffaith bod yr anifeiliaid hyn yn cael eu magu mewn tanciau lle gallen nhw brofi lefelau annaturiol o uchel o olau artiffisial olygu bod llygaid llai, llai sensitif i olau, yn fuddiol.

Mae degau o filiynau o eogiaid a ffermiwyd wedi dianc i’r gwyllt ers y 1970au, ac maen nhw wedi bod yn bridio gyda physgod gwyllt i ffurfio pysgod hybrid. Mae’r canfyddiadau newydd yn amlygu’r risgiau y gallen nhw eu hwynebu yn y gwyllt. Mae Dr Joshka Kaufmann, ymchwilydd ôl-ddoethurol yng Ngholeg y Brifysgol, Corc, a chyd-arweinydd ar yr ymchwil yn esbonio: ‘Mae pysgod sy’n dianc o ffermydd yn fygythiad i integriti genetig poblogaethau Eogiaid yr Iwerydd ac yn cael effaith ar niferoedd y boblogaeth yn y tymor hir.'

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y cyhoeddiad llawn yma neu cysylltwch â Dr William Perry ar perryw1@cardiff.ac.uk.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.