Ewch i’r prif gynnwys

Awdur Creadigol yn ennill gwobr ryngwladol

27 Medi 2021

Yr awdur a’r academydd arobryn yn ennill y brif wobr farddoniaeth am yr ail flwyddyn yn olynol

Mae Robert Walton o’r tîm Ysgrifennu Creadigol, awdur Sax Burglar Blues, wedi ennill Cystadleuaeth y Gerdd Saesneg yng Ngŵyl Cymru Gogledd America am ei gerdd 'On Clevedon Pier, June 2020'.

Mae Bob Walton, sydd wedi hen ennill ei blwyf yn y tîm Ysgrifennu Creadigol, yn cydweithio â nifer o grwpiau creadigol ar ddwy ochr Môr Hafren gan gynnwys The Write Box, Track Record Arts, Rosebay Willowherb a The Spoke ym Mryste, gan berfformio'n rheolaidd o flaen neuaddau llawn.

Enillodd Wobr Bardd Newydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn sgîl ei gasgliad cyntaf Workings, ac mae ei waith yn cynnwys y naratif barddonol ar gyfer rhaglen ddogfen ddrama BBC2 Cymru, Fighting to the End: Sisley in Wales, a ymddangosodd hefyd yn arddangosfa Sisley yng Nghymru yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Hefyd enillodd Bob y gystadleuaeth Iaith Saesneg gyntaf yn 2020 gyda'i gerdd 'Alphabet'

Mae'r cystadlaethau cyfansoddi barddoniaeth (Cymraeg a Saesneg) yn rhan o Eisteddfod yr ŵyl, a’r thema eleni yw Hiraeth.

Cyhoeddwyd yr enillwyr yn Seremoni Agoriadol yr ŵyl yn gynharach y mis hwn.

Mae'r gwobrau'n anrhydeddu David Llewelyn Williams (1937-2021) o Vancouver, Canada, cyn-Ymddiriedolwr Gŵyl Cymru Gogledd America. Yn wreiddiol o Brestatyn, Cymru ac yn wybodus iawn o feirdd a barddoniaeth Gymreig, beirniadodd Williams nifer fawr o gystadleuaethau yng Ngogledd America a Chymru fel ei gilydd.

Rhannu’r stori hon