Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Lynne Boddy MBE yn ennill Gwobr y Gymdeithas Coedyddiaeth 2021

15 Medi 2021

Professor Lynne Boddy
Professor Lynne Boddy

Yr ecolegydd ffwngaidd wedi’i gydnabod am wneud cyfraniad sylweddol a chadarnhaol at y proffesiwn coedyddiaeth gan y sefydliad mwyaf i weithwyr gofal coed proffesiynol yn y DU

Enwebwyd yr Athro Boddy am y wobr oherwydd ei rôl yn y gwaith o egluro’r rhyngweithio cadarnhaol a hanfodol sy’n digwydd rhwng ffyngau a choed a’u hecosystemau rhyng-gysylltiedig.

Dywedodd un o'r enwebeion: "Mae gan Lynne enw da am fod yn siaradwr ac yn addysgwr allgymorth eithriadol sy'n gallu cyfleu ymchwil mewn iaith glir ac mewn ffordd ddiddorol iawn. Mae hyn i’w weld yn ei chyhoeddiad arloesol diweddaraf, Fungi and Trees – Their Complex Relationships, lle mae wedi crisialu oes o ymchwil mewn iaith hawdd ei deall er mwyn cyfoethogi gwybodaeth am y cysylltiadau hyn a gwella dealltwriaeth ohonynt ymhlith y rhai sy’n astudio neu’n gweithio gyda choed. I ofalwyr coed yn arbennig, mae'n gyfraniad pwysig i'n helpu i warchod a rheoli coed am eu holl werthoedd."

Y Gymdeithas Coedyddiaeth yw'r sefydliad aelodaeth mwyaf yn y DU i’r rhai a gyflogir yn y sector gofal coed. Mae’n arwain ar bob mater sy’n ymwneud â choedyddiaeth yn y DU ac yn hyrwyddo rheoli coed yn gynaliadwy.

Dywedodd yr Athro Boddy: "Mae'r wobr hon yn un arbennig iawn am sawl rheswm. Yn gyntaf, mae fy ngwobrau blaenorol wedi bod yn gysylltiedig bron yn gyfan gwbl ag ecoleg ffwngaidd, ond mae’r wobr hon yn gysylltiedig â choed. Fel y gwyddom, nid yw coeden byth yn goeden yn unig. Mae’n goeden yn ogystal â llawer iawn o ffyngau.  Yn ail, mae hefyd yn adlewyrchu perthnasedd i ymarferwyr, a gobeithio bod hynny'n golygu bod fy nghanfyddiadau a'm gwaith wedi bod yn berthnasol i'r byd go iawn."

Diolchodd yr Athro Boddy i'r holl fyfyrwyr a chydweithredwyr sydd wedi gweithio gyda hi dros y blynyddoedd, yn ogystal â gofalwyr coed am eu diddordeb yn ei gwaith ac am rannu gwybodaeth am ganlyniadau’r rhyngweithio a oedd yn digwydd rhwng ffyngau a choed, a sbardunodd ymchwiliadau newydd yn aml.

Cafodd y wobr ei chyflwyno i'r Athro Boddy gan y Cadeirydd Michelle Ryan yn ystod Cynhadledd Amwynderau Genedlaethol “Coed a Chymdeithas” y Gymdeithas Coedyddiaeth.

Rhannu’r stori hon