Ewch i’r prif gynnwys

Deall dechrau a pharhad sychder mewn ymatebion i leithder pridd a llystyfiant glaswelltir yn Ne California

10 Awst 2021

California Dry

Wrth i sychder ddwysáu yn Ne California, mae ymchwil newydd yn dangos newid amlwg yn y gwaith o frownio llystyfiant glaswelltir, gan godi'r risg o danau gwyllt difrifol a helaeth yn y rhanbarth hwn.

Mae tirwedd De California wedi'i gorchuddio gan ddarnau mawr o laswelltir agored, ac er nad yw glaswellt brown yn olygfa anghyffredin yn ystod y tymor sych, bu newidiadau yn nechrau a dilyniant brownio o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd. Cafodd y sychder aml-flwyddyn diweddar yng Nghaliffornia o 2012-2016 effeithiau dinistriol ar y gwahanol ranbarthau a bïomau, megis marwolaeth coedwigoedd ar raddfa fawr a nifer o danau gwyllt helaeth.

Dibynna glaswelltiroedd yn drwm ar law ac eira newydd yn ystod y gaeaf a'r gwanwyn fel eu prif ffynhonnell ddŵr. Yn ystod y sychder diweddar, cafodd y diffyg pitw yn ystod y tymor glaw, ynghyd â mwy o alw anweddiad oherwydd tymheredd cynhesach, effaith amlwg ar laswelltiroedd ledled De California.

Picture Browned Grass California
© Innovative Datasets for Environmental Analysis by Students (IDEAS), University of California

Meddai Maria Warter, ymchwilydd PhD yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd: 'Yn seiliedig ar ddadansoddiad o ddegawd o ddata hinsoddol, gan gynnwys am law ac eira, tymheredd aer, lleithder, anweddiad a lleithder pridd, canfu ein hymchwil fod diffyg dŵr glaw ac eira yn ystod y tymor glawog wedi arwain at frownio glaswelltau'n gynharach a sychu’r pridd. O ganlyniad, mae'r dirwedd yn cynnau’n haws, gan fygwth nid yn unig ecosystemau ond hefyd gymunedau lleol fel y gwelwyd yn ystod digwyddiadau tân diweddar.’

Bydd dilyniant y newid yn yr hinsawdd yn debygol o ddwysáu'r tueddiadau sychu hyn, gan roi straen pellach ar ecosystemau glaswelltir a chodi'r risg o danau gwyllt a cholli bioamrywiaeth i lefel nas gwelwyd o'r blaen.

Mae'r papur llawn i'w weld yma. Cysylltwch â Maria Warter yn warterm@caerdydd.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.