Mae gwobr newydd i fyfyrwyr yn anrhydeddu Athro Llenyddiaeth Saesneg nodedig
13 Gorffennaf 2021
Mae’r Ysgol yn cyhoeddi Gwobr Profiad Myfyrwyr Blwyddyn Un Martin Coyle
Mae'n bleser gan yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth gyhoeddi gwobr newydd i gydnabod yr Athro Emeritws ysbrydoledig Martin Coyle.
Bydd Gwobr Profiad Myfyrwyr Blwyddyn Un Martin Coyle yn agored i fyfyrwyr Israddedig presennol, a bydd tair gwobr yn adlewyrchu’r meysydd disgyblaeth yn yr Ysgol: Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth ac Athroniaeth.
Dylai myfyrwyr gyflwyno darn byr o ysgrifennu (750-1000 gair) ar y pwnc 'Fy Mlwyddyn Gyntaf' i adlewyrchu eu blwyddyn gyntaf yn yr Ysgol. Gall y ceisiadau a ddaw i law fod yn bersonol, yn fyfyriol ac yn hwyl, gan fynegi profiad y flwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn ei ystyr ehangaf, a bydd yn rhoi cipolwg personol ar y daith sy’n llawn datblygiadau ac yn hynodi’r flwyddyn bwysig hon.
Bydd enillwyr y gwobrau yn derbyn eu talebau llyfrau Blackwell gwerth £100 mewn seremoni wobrwyo ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Bydd y panel beirniadu yn cynnwys Cynrychiolwyr y Myfyrwyr, staff yr Ysgol a'r Athro Martin Coyle.
Ymddeolodd yr Athro Llenyddiaeth Saesneg Martin Coyle o'r Ysgol ym mis Medi 2020, yn dilyn 47 mlynedd o wasanaeth.
Yn ystod y cyfnod o bron hanner can mlynedd, golygodd Martin y gyfres ddylanwadol Macmillan New Casebooks - gan ysgogi lledaenu dulliau newydd o ymarfer llenyddol ar y cyd â’i gydymaith a'i gydweithiwr hirdymor John Peck. Mae ei gyfraniad i'r gyfres, ar Hamlet, yn parhau i fod yn astudiaeth bwerus o'r ddrama. Roedd eu canllawiau Practical Criticism, Literary Terms, a Shakespeare– diddordeb mawr Martin - yn gyfarwydd ym mhob llyfrgell Prifysgol ac ar restrau darllen yn rhyngwladol. Y mwyaf dylanwadol oedd y Student’s Guide to Writing, a ysgrifennwyd ddiwedd y 1990au.
Bu ymrwymiad diflino'r academydd nodedig i fyfyrwyr Llenyddiaeth Saesneg yn hynodi ei yrfa, ac mae effaith ei waith yn mynd ymhell y tu hwnt i ddarlithfa'r Brifysgol. Yn achlysurol byddai Martin yn derbyn llythyrau gan garcharorion yn mynegi eu diolch diffuant am ei ganllaw ar ysgrifennu – gan sôn yn deimladwy am y ffordd yr oedd gwelliannau yn eu hysgrifennu wedi agor cyfleoedd newydd yr oedden nhw’n credu na fydden nhw byth yn eu cael.
Mae modd cyflwyno cais bellach ar gyfer Gwobr Profiad Myfyrwyr Blwyddyn Un Martin Coyle 2021.
Dylech chi gyflwyno eich cais drwy ebost erbyn hanner dydd ddydd Gwener olaf gwyliau'r Pasg.