Ewch i’r prif gynnwys

Goruchwylio Myfyrwyr Gradd Ymsang

24 Mehefin 2021

Photo by mentatdgt from Pexels

Eleni, bu Tîm CUREMeDE yn rhan o bedwar prosiect ymchwil ar gyfer y radd ymsang mewn Addysg Feddygol. Mae'r rhaglen Addysg Feddygol yn un o nifer sy'n cynnig cyfle i fyfyrwyr meddygol israddedig gymryd blwyddyn allan o'u hastudiaethau meddygol i astudio ar gyfer gradd ymsang (iBSc). Yn hanesyddol, mae Tîm CUREMeDE wedi bod yn rhan o sawl prosiect iBSc gan fod nodau'r rhaglen Addysg Feddygol yn cyd-fynd yn agos â buddiannau ein tîm.

Bu Alison, Dorottya a Sophie’n rhan o’r gwaith o oruchwylio pedwar myfyriwr ar gyfer y prosiectau ymchwil canlynol:

  • Strategaethau disgwrs effeithiol mewn darlithoedd fideo meddygol
  • Barn addysgwyr meddygol am effaith addysg ryngbroffesiynol ar gydweithredu’n rhyngbroffesiynol ym maes ymarfer clinigol
  • Barn myfyrwyr meddygol am effaith addysg ryngbroffesiynol ar gydweithredu’n rhyngbroffesiynol ym maes ymarfer clinigol
  • Cyfrwng addysg feddygol cyn, yn ystod ac ar ôl y pandemig a’i effaith ar ddysgu a datblygu myfyrwyr

Cyflwynodd myfyrwyr eu gwaith mewn nifer o gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys:

  • Cynhadledd Myfyrwyr Ymsang, INSPIRE
  • Cynhadledd Rhwydwaith Addysgwyr Gofal Iechyd Iwerddon (INHED)
  • Cynhadledd Datblygu Rhagoriaeth mewn Addysg Feddygol (DEMEC)
  • Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd

Ers cwblhau eu prosiectau ymchwil, mae rhai myfyrwyr yn awyddus i lunio erthyglau ymchwil i'w cyflwyno i gyfnodolion perthnasol. Mae'r cyflwyniadau a'r cyhoeddiadau posibl yn y dyfodol yn dangos ansawdd uchel yr ymchwil a wneir gan y myfyrwyr dan oruchwyliaeth y tîm. Mae cynlluniau i fynd ar drywydd canfyddiadau'r traethodau hir hyn yn y dyfodol.

Rhannu’r stori hon