Ewch i’r prif gynnwys

Cwrdd â'r ymchwilydd: Dr Chris Eaton

21 Mehefin 2021

books on desk

Mae Canolfan Wolfson wedi croesawu cydweithiwr ymchwil newydd, fydd yn gweithio ar draws y Ganolfan a Llywodraeth Cymru.

Bydd Dr Chris Eaton, a ymunodd â'r tîm ym mis Mawrth 2021, yn gweithio ar draws y Ganolfan a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod blaenoriaethau polisi'r llywodraeth ar gyfer iechyd meddwl ieuenctid yn llywio ymchwil y Ganolfan, ac yn ei thro y gall ymchwil y Ganolfan gyfrannu at ddatblygu polisi a gwerthuso cenedlaethol yn y maes hwn.

Cwblhaodd Dr Eaton ei PhD yn y MRC CNGG yn 2019. Yn dilyn swyddi ôl-ddoethurol yn Birmingham a Chaeredin, mae Chris wedi dychwelyd i'r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ac mae eisoes yn edrych ymlaen ddechrau ar waith yn y Ganolfan.

Mae ei ddiddordebau ymchwil ehangach yn cynnwys archwilio mynychder, a ffactorau risg ar gyfer problemau iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc â chanlyniadau niwroddatblygiadol megis awtistiaeth, anabledd deallusol ac epilepsi. Mae gan Chris ddiddordeb arbennig mewn gwella dealltwriaeth o arwyddion a symptomau iselder mewn pobl ifanc ag anhwylderau niwroddatblygiadol a'r ffordd orau o asesu a thrin iselder yn y plant a'r glasoed hyn.

Hear more from Dr. Chris Eaton on his research interests.

Dywedodd Dr Eaton, “Mae iechyd meddwl gwael ymysg pobl ifanc yn gysylltiedig â chanlyniadau negyddol ar draws llawer o wahanol feysydd yn eu bywydau. Mae ymchwil i achosion problemau iechyd meddwl mewn plant a phobl ifanc yn hanfodol, ynghyd ag astudiaethau sy'n ystyried beth yw'r ffordd orau i atal a thrin yr anawsterau hyn.

“Mae ymchwil yn y meysydd hyn yn arbennig o bwysig o ystyried yr aflonyddwch a’r newidiadau enfawr y mae pobl ifanc wedi’u profi yn ystod pandemig COVID-19. Mae Canolfan Wolfson yn canolbwyntio ar gynnal ymchwil i wella dealltwriaeth o'r ffactorau risg ar gyfer iselder a phryder ieuenctid, canlyniadau sy'n gysylltiedig â'r anhwylderau hyn a'r ffordd orau i gefnogi a gwella iechyd meddwl ieuenctid. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gyfrannu at y gwaith pwysig mae'r Ganolfan yn ei gynllunio."

“Un o’r heriau allweddol,” parhaodd Dr Eaton, “yw sut mae hybu iechyd meddwl da mewn pobl ifanc o oedran ifanc ac adeiladu gwytnwch.

“Rhaid i ni sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar atal, er mwyn gostwng nifer y bobl ifanc sy'n datblygu anawsterau iechyd meddwl difrifol."

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd symudiad cymdeithasol gwirioneddol at well cydnabyddiaeth nad yw anawsterau iechyd meddwl yn wendid nac yn rhywbeth fod â chywilydd ohono. Mae hyn yn bwysig er mwyn caniatáu i bobl ifanc sy'n profi problemau iechyd meddwl geisio cymorth a chael y gofal sydd ei angen arnynt.

“Bydd fy rôl yn gweithio ar draws Canolfan Wolfson a Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau y gall yr ymchwil sy’n dod o’r Ganolfan gyfrannu at newid sylweddol yn y polisi ar iechyd meddwl ieuenctid a'i bod yn berthnasol yn uniongyrchol i fywydau pobl ifanc sy’n profi problemau iechyd meddwl. Gydag un o bob pum person ifanc yng Nghymru yn profi lefelau uchel o anawsterau iechyd meddwl cyn pandemig COVID-19, ni fu erioed yn bwysicach cynnal ymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc."