Ewch i’r prif gynnwys

Watership Down yn 50

27 Mai 2021

Dathliadau wrth i lyfr pontio cynnar gyrraedd hanner canrif

O’r braidd y cafodd y llyfr hwn ei gyhoeddi.

Nawr, wedi gwerthu miliynau lawer o gopïau a chael addasiadau ffilm a theledu arloesol, bydd Watership Down yn dathlu ei 50 mlwyddiant mewn cyfres o ddigwyddiadau, gan gynnwys cynhadledd a drefnir gan arbenigwyr ar lenyddiaeth plant o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Glasgow.

Cyflwynwyd Watership Down i fwy na 30 o gyhoeddwyr, a chyrhaeddodd silffoedd llyfrau o’r diwedd ym mis Tachwedd 1972 oherwydd rhagwelediad y cwmni bach, annibynnol, Rex Collings.

Bron 50 mlynedd o lwyddiant yn ddiweddarach, mae’r hanes am y cwningod dyfeisgar yn dianc rhag dinistr eu gwâl wedi dod yn nofel glasurol i blant.

Cychwynnodd hanes Watership Down ar deithiau hir yn y car, pan grewyd hanesion Hazel a Fiver ar gyfer merched ifanc Adams, Juliet a Rosamond.

Heddiw mae rhai miliynau o gopïau wedi cael eu gwerthu ar draws y byd, ac mae’r llyfr wedi cael ei drosi i lawer mwy na 20 o ieithoedd.  Yn 1978 cafodd ei addasu yn ffilm hyd llawn wedi’i hanimeiddio, oedd ei hun yn garreg milltir yn hanes animeiddio, ac fe’i gwelwyd yn ei ffurf ddiweddar mewn cyfres BBC/Netflix yn 2018.

Yn ystod y gynhadledd 3-diwrnod, bydd academyddion yn archwilio apêl parhaus nofel gyntaf Richard Adams, dros gyfnod o bum degawd.

Bydd y dathliadau hefyd yn cynnwys yr addasiad manwl gywir cyntaf o’r nofel gyfan ar ffurf nofel graffig.

Mae trefnwyr y gynhadledd yn edrych ymlaen at gynhadledd yn llawn cyfoeth o wahanol bersbectifau ar y clasur poblogaidd.

Dywedodd Dr Catherine Butler, sy’n arbenigo ar lenyddiaeth plant ac yn rhan o Ysgol Saesneg Prifysgol Caerdydd:

“Mae Watership Down yn fan cyfarfod ar gyfer cynifer o wahanol themâu: fel rhagflaenydd genre cyfan o storïau anifeiliaid; fel un o’r llyfrau ‘pontio’ cynharaf i gael ei fwynhau gan blant ac oedolion fel ei gilydd; ac fel cyfraniad sylweddol i lenyddiaeth amgylcheddol.  Mae’n llawn cymaint o lyfr i’n dyddiau ni ag i 1972.”

Ychwanegodd Dr Dimitra Fimi, o Ganolfan Ffantasi a Rhyfeddodau Glasgow:

“Mae Watership Down yn un o’r clasuron ffantasi i blant, rywle yn y canol rhwng storïau anifeiliaid hanesion arwrol hynafol fel yr Aeneid, ynghyd â iaith a ddyfeisiwyd a chyfeiriadau at draddodiad chwedlonol a ddysgwyd.  Rwy’n edrych ymlaen gymaint at safbwyntiau a thrafodaethau newydd ar y llyfr hwn, sydd â lle mor amlwg yn ein calonnau!”

Gwahoddir academyddion i gyflwyno papurau 20 munud ar unrhyw agwedd ar Watership Down, ei ddylanwadau a’i etifeddiaeth.  Dylid e-bostio crynodebau heb fod yn fwy na 200 o eiriau at y trefnwyr erbyn 31 Awst.

Y prif siaradwyr fydd merch Adams,  Rosamond Mahony, yr awdur plant o Brydain, SF Said a’r arbenigwr ar astudiaethau llenyddol ar anifeiliaid, Dr Briony Wickes (Coleg y Brifysgol, Dulyn).

Dywedodd Rosamond Mahony: “Fel gwarcheidwaid y nofel hon, sydd mor annwyl gennym, rydym ni fel teulu wrth ein bodd bod Watership Down fy nhad i fod yn destun y gynhadledd academaidd hon.

“Mae pobl o bob oed yn dal i deimlo cysylltiad â stori Watership Down ac mae ei phrif negeseuon ynghylch yr amgylchedd, arweinyddiaeth a chyfeillgarwch mor bwysig heddiw ag yr oeddent hanner canrif yn ôl.”

Cynhelir Watership Down at Fifty ym Mhrifysgol Glasgow ym mis Medi 2022.

.

Rhannu’r stori hon