Ewch i’r prif gynnwys

Lleiafrif o Brydeinwyr yn credu bod gan lywodraeth y DU gynllun clir er mwyn mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd - arolwg

22 April 2021

Yn ôl arolwg newydd, dim ond tri o bob 10 Prydeiniwr (28%) sy'n cytuno bod gan y llywodraeth gynllun clir ar gyfer sut y gall weithio gyda busnesau a'r bobl er mwyn mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Cynhaliwyd yr arolwg o 1,000 o oedolion gan Ipsos MORI i nodi Diwrnod y Ddaear 2021 heddiw, mewn partneriaeth â Chanolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (CAST).

Gofynnodd yr arolwg i ba raddau roedd pobl yn cytuno â'r datganiad bod gan lywodraeth y DU gynllun clir ar gyfer sut mae'r llywodraeth, busnesau a phobl yn mynd i weithio gyda'i gilydd er mwyn mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd; cytunodd 28%, tra bod traean yn anghytuno (33%).

Dywedodd saith o bob 10 (69%) y byddai'r llywodraeth yn methu pobl Prydain os na fydd yn gweithredu nawr er mwyn rheoli'r newid yn yr hinsawdd, gyda dim ond un o bob 10 (11%) yn anghytuno â hyn.

Cynhaliwyd yr ymchwil ym mis Chwefror a mis Mawrth eleni. Yr wythnos hon cyhoeddodd y llywodraeth ei bwriad i gyflymu gostyngiadau mewn allyriadau carbon 78% erbyn 2035.

Mae canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Dywedodd tri chwarter (74%) o'r ymatebwyr fod yn rhaid i fusnesau weithredu nawr er mwyn osgoi methu eu cwsmeriaid a'u gweithwyr;
  • Dywedodd 73% eu bod yn credu y byddai unigolion yn methu cenedlaethau'r dyfodol os na fyddant yn gweithredu nawr i reoli'r newid yn yr hinsawdd;
  • O ran adfer yr economi ar ôl COVID-19, roedd gwahaniaeth barn; cytunodd tua thraean (35%) na ddylai'r llywodraeth flaenoriaethu'r gwaith o reoli'r newid yn yr hinsawdd, tra bod cyfran debyg (38%) yn anghytuno â hyn.

Meddai’r Athro Lorraine Whitmarsh, Cyfarwyddwr CAST a seicolegydd amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerfaddon: “Mae canfyddiadau newydd yr arolwg hwn yn dangos nad yw pandemig COVID-19 wedi effeithio ar bryder y cyhoedd am newid yn yr hinsawdd, a bod cred gref bod cyfrifoldeb a rennir gan bawb mewn cymdeithas i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.”

Roedd yr arolwg yn cynnwys canfyddiadau eraill sy'n awgrymu bod Prydeinwyr am gadw ymddygiadau penodol a fabwysiadwyd yn ystod y pandemig.

Gwelwyd bod Prydeinwyr yn fwy tebygol o wneud ymdrech yn fwy aml i osgoi taflu bwyd o gymharu â chyn y pandemig (36%) yn ogystal â phrynu pethau sydd eu hangen arnynt yn unig yn hytrach na siopa am bethau am hwyl (32%).

Dywedodd tri o bob deg (30%) y byddent yn cyflawni mwy o dasgau drwy gerdded neu feicio yn hytrach na gyrru tra bod chwarter yn disgwyl gweithio gartref yn fwy aml (26%) neu brynu pethau yr oedd eu hangen arnynt yn ail law (24%). Dywedodd un o bob pump (21%) y byddent yn mynd ar wyliau lle nad oes angen iddynt hedfan yn amlach nag o'r blaen, unwaith y bydd cyfyngiadau'n cael eu llacio.

“Mae’n galonogol bod llawer o bobl yn awyddus i gadw neu gynyddu'r newidiadau a wnaed i'w ffordd o fyw yn ystod cyfyngiadau COVID-19 – fel lleihau teithio, defnydd a gwastraff bwyd – ar ôl i gyfyngiadau gael eu llacio,” meddai’r Athro Whitmarsh.

“Bellach, mae angen polisïau arnom i gefnogi ac atgyfnerthu’r arferion cadarnhaol hyn, yn ogystal â negeseuon cliriach ynghylch pa ymddygiadau sydd fwyaf effeithiol a beth yw cynlluniau’r DU ar gyfer mynd i’r afael â'r newid yn yr hinsawdd.”

Dywedodd Kelly Beaver, Rheolwr Gyfarwyddwr Materion Cyhoeddus Ipsos MORI: “Er bod llawer o Brydeinwyr yn dweud eu bod yn deall pa gamau y mae angen iddynt eu cymryd er mwyn mynd i’r afael â'r newid yn yr hinsawdd, maen nhw'n tueddu i ganolbwyntio ar gamau sy'n cael llai o effaith yn hytrach na newidiadau mwy sylweddol i ffordd rywun o fyw.

“Serch hynny, ceir parodrwydd i newid ymddygiadau penodol fydd yn gwneud gwahaniaeth, ac mae’r ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb y mae unigolion yn teimlo sydd ganddynt – ynghyd â busnesau – i reoli'r newid yn yr hinsawdd yn awgrymu y byddant yn barod i dderbyn camau'r llywodraeth i leihau allyriadau tŷ gwydr y DU.”

Mae'r canfyddiadau ar gael yn llawn yma.

Rhannu’r stori hon