Ewch i’r prif gynnwys

Dirprwy Is-Ganghellor ar ei ffordd i Cranfield

21 Ebrill 2021

Photograph of Professor Karen Holford

Yr Athro Karen Holford wedi’i phenodi’n Is-Ganghellor Prifysgol Cranfield.

Mae penodiad yr Athro Holford yn dod â’i chysylltiad deugain mlynedd o hyd â Phrifysgol Caerdydd i ben. Bu’n fyfyriwr peirianneg yma yn y lle cyntaf ac, ar ôl gweithio ym myd diwydiant gyda Rolls-Royce ac AB Electronics, dychwelodd atom i fod yn ymchwilydd blaenllaw yn ogystal ag Athro Prifysgol, Rhag Is-Ganghellor a Dirprwy Is-Ganghellor.

Hi hefyd yw’r trydydd aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol i symud ymlaen i rôl Is-Ganghellor, gan ddilyn yn ôl troed yr Athro Elizabeth Treasure a’r Athro George Boyne.

Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Er mor drist fydd colli Karen, rwyf wrth fy modd drosti ac yn gwybod y bydd yn arwain Cranfield mewn modd rhagorol.

“Mae ei phenodiad yn gyflawniad sylweddol dros ben ac yn gwbl haeddiannol o ystyried ei gwaith rhagorol yn rhan o’r tîm sydd wedi arwain Prifysgol Caerdydd dros y naw mlynedd ddiwethaf.

“Ar ran pawb yng Nghaerdydd, llongyfarchiadau o waelod calon i Karen a dymunaf bob llwyddiant iddi yn y dyfodol.”

Yn ogystal â bod yn aelod o’r uwch-dîm rheoli, fe wnaeth yr Athro Holford hybu enw da rhyngwladol Caerdydd mewn ymchwil ym maes allyriadau acwstig, yn enwedig y gwaith arbrofol yn un o'r cyfleusterau gorau yn Ewrop.

Mae'r Athro Holford yn hyrwyddwr brwd a blaenllaw o beirianneg, ac mae'n aelod o sawl pwyllgor a sefydliad sy'n mynd ati i annog pobl ifanc i ystyried dilyn gyrfa yn y maes.

Yn 2006, cafodd ei henwi’n Gymraes y Flwyddyn ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg, ac yn 2007, dyfarnwyd Gwobr Rhagoriaeth WISE (Menywod mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg) iddi am ei hymrwymiad hirdymor i gefnogi merched a menywod ifanc ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg.

Yn 2015 daeth yn Gymrawd o’r Academi Beirianneg Frenhinol ac yn 2016 cafodd ei henwi’n un o’r 50 o beirianwyr benywaidd mwyaf dylanwadol y DU.

Dyfarnwyd CBE i’r Athro Karen Holford yn 2018 am wasanaethau i beirianneg ac am annog menywod ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg.

Bydd yr Athro Holford yn dechrau ei swydd newydd ar 1 Awst 2021.

Bydd rhagor o wybodaeth am gynlluniau i recriwtio rhywun yn ei lle ar gael cyn bo hir.

Rhannu’r stori hon