Ei Uchelder Brenhinol Y Tywysog Philip, Dug Caeredin
9 Ebrill 2021
Mae'r Is-Ganghellor wedi mynegi cydymdeimlad y Brifysgol at aelodau'r Teulu Brenhinol yn dilyn marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Y Tywysog Philip, Dug Caeredin.
Meddai’r Athro Riordan: “Cefais y fraint aruthrol o groesawu Ei Uchelder Brenhinol i’r Brifysgol pan ymunodd â’i Mawrhydi’r Frenhines i agor Canolfan Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yn swyddogol yn 2016.
“Yr hyn a wnaeth fy nharo yn ystod ei ymweliad oedd ei ddiddordeb gwirioneddol mewn gwyddoniaeth a'r brwdfrydedd a ddangosodd wrth gwrdd â disgyblion o ysgolion lleol, staff a myfyrwyr fel ei gilydd.
“Ar ran Prifysgol Caerdydd, anfonaf ein cydymdeimlad dwysaf at y Teulu Brenhinol ar adeg anodd ac emosiynol dros ben.”
I dalu teyrnged, bydd holl faneri’r Brifysgol yn hedfan ar hanner mast.