Ewch i’r prif gynnwys

CUREMeDE yn croesawu Shannon Costello

26 Mawrth 2021

Yn 2020, croesawodd CUREMeDE ddau fyfyriwr Ôl-raddedig newydd. Yma, rydym yn croesawu Shannon Costello a’i gwaith ar sut y defnyddir technoleg symudol ym maes gofal iechyd.

“Helo, Shannon Costello ydw i ac rwyf ym mlwyddyn gyntaf fy PhD yn y tîm CUREMeDE. Rwyf yn weithiwr cymdeithasol cymwys ac fe wnes i fagu diddordeb mewn gofal iechyd wrth wneud y radd hon. Rwyf hefyd wedi cwblhau MSc mewn Heneiddio, Iechyd a Chlefydau yn ddiweddar ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae fy PhD yn canolbwyntio ar dechnoleg feddygol symudol a ddefnyddir i gofnodi arsylliadau o gleifion yng Nghymru a sut mae’r dechnoleg newydd hon yn effeithio ar glinigwyr yn unigol ac yn eu timau. Hyd yma, rwyf wedi cael modd i fyw yn astudio cymhlethdodau’r pwnc hwn am ei fod yn cael pwyslais newydd ym maes gofal iechyd. Edrychaf ymlaen at yr hyn sydd gan weddill y PhD i’w gynnig o ran datblygu fy sgiliau ymchwil ymarferol yn rhan o’r tîm cefnogol a chyfeillgar hwn.”

Rhannu’r stori hon