Ewch i’r prif gynnwys

Rhybudd i ohirio seremonïau graddio wyneb yn wyneb 2021

24 Mawrth 2021

Main Building_BlueSky_GreenGrass

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd i fyfyrwyr blwyddyn olaf ar y 24 Mawrth.

Annwyl fyfyriwr

Gyda chalon drom, ysgrifennaf atoch i roi gwybod ein bod wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio ein seremonïau Graddio wyneb yn wyneb 2021 eto yr haf hwn. Rwy’n gwybod y bydd y newyddion yn siom i chi; fodd bynnag, gallaf eich sicrhau nad oedd hwn yn benderfyniad hawdd.

Hoffwn eich sicrhau bod ein penderfyniadau yn adlewyrchu’r cyngor presennol gan gyrff iechyd cyhoeddus a’r llywodraeth, ac yn seiliedig ar eich lles chi a lles eich anwyliaid, a dyna’r flaenoriaeth o hyd.

Ers dechrau’r pandemig, byddwch yn ymwybodol ein bod wedi monitro a rheoli ei effaith ar fywyd myfyrwyr yn agos iawn. Mae’r un peth yn berthnasol i Raddio lle rydym wedi archwilio’r holl opsiynau hyfyw i roi cyfle i chi ddathlu’ch cyflawniadau wyneb yn wyneb.

Fel prifysgol yng Nghymru, rydym yn cadw at ganllawiau gan Lywodraeth Cymru a all fod yn wahanol i rannau eraill o’r DU. Wrth imi ysgrifennu’r neges hon, mae Cymru yn parhau i fod ar lefel rhybudd 4 ac o ystyried yr ansicrwydd a’r cyfyngiadau parhaus ar ddigwyddiadau mawr, credwn mai gohirio dathliadau eleni yw’r penderfyniad cywir fel eich bod chi a’ch teuluoedd yn gwybod yn union beth fydd yn digwydd.

Rydym yn gwerthfawrogi bod newyddion gobeithiol a chadarnhaol iawn ynglŷn â chyflwyno’r rhaglen frechu, gyda’r gobaith y bydd y sefyllfa’n gwella erbyn yr haf.  Fodd bynnag, heb sicrwydd llwyr ni allwn gynnal digwyddiad cynhwysol o faint a graddfa ein seremonïau Graddio blaenorol wyneb yn wyneb.

Rydym wedi ymgynghori â phrifysgolion eraill y DU ac er bod rhai yn parhau i archwilio’r posibilrwydd, credwn y bydd y rhan fwyaf o brifysgolion eraill y DU a Chymru, fel ni, yn dod i’r un penderfyniad anodd hwn.

Rwyf am fod yn glir i ddosbarthiadau 2020 a 2021 – gan gymryd y bydd cyfyngiadau’n cael eu codi, rydym yn hollol benderfynol o ddarparu seremoni Graddio wyneb yn wyneb i chi i gyd yn ystod Haf 2022, os bydd yn ddiogel gwneud hynny.

Rwyf hefyd am achub ar y cyfle hwn i’ch sicrhau, yn amodol ar fodloni’ch gofynion dysgu, nad yw’r penderfyniad hwn i ohirio ein graddio wyneb yn wyneb yn cael unrhyw effaith ar eich gallu i raddio o Brifysgol Caerdydd eleni.

Er bod ein seremonïau graddio yn rhan allweddol o galendr y Brifysgol a’ch profiad fel myfyriwr, digwyddiadau seremonïol yw’r rhain. Ni roddir ein graddau yn ffurfiol yn y seremonïau hyn, felly nid oes unrhyw effaith ar eich dilyniant i fywyd ar ôl y brifysgol.

Ni fyddwn yn gadael i’ch taith o fod yn fyfyriwr i fyfyriwr graddedig fynd heb ei nodi, a byddwn yn cynnal cyfres o Ddigwyddiadau Rhithwir i chi ddathlu’ch cyflawniadau gyda myfyrwyr, staff a’r rhai agosaf atoch chi.

Ar hyn o bryd rydym yn archwilio rhai cyfleoedd ar gyfer y Dathliadau Rhithwir hyn, gan adeiladu ar adborth gan raddedigion y llynedd, a byddwn yn amlinellu ein cynlluniau cyn gynted ag y gallwn wneud hynny. Edrychaf ymlaen yn fawr at ddathlu gyda chi a’ch gwylio wrth i chi nodi’r achlysur gyda’ch ffrindiau a’ch teuluoedd.

Yn olaf, er nad hwn oedd yr ebost yr oeddwn am ei ysgrifennu, hoffwn ddiolch i chi am eich amynedd a’ch gwydnwch parhaus yn ystod blwyddyn heriol dros ben. Fel y soniaf yn rheolaidd yn fy ebyst, os ydych chi’n cael trafferth, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi ac mae Cyswllt Myfyrwyr yn parhau i fod yn bwynt cyswllt cyntaf i chi os oes angen unrhyw gefnogaeth arnoch chi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch Graddio, edrychwch ar ein tudalennau Graddio ar-lein a pheidiwch ag oedi cyn cysylltu â: registrysupport@caerdydd.ac.uk.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr

Rhannu’r stori hon