Ewch i’r prif gynnwys

Rôl cynullydd newydd ar gyfer rhwydwaith cyfraith rhyng-ffydd

25 Mawrth 2021

Mae'n bleser gan Ganolfan y Gyfraith a Chrefydd (CLR) gyhoeddi penodiad Rebecca Riedel yn Gynullydd ar gyfer ei Rhwydwaith Cynghorwyr Cyfreithiol Rhyng-ffydd (ILAN).

Mae Rebecca yn fyfyriwr PhD, yn diwtor LLB yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, ac yn Gymrawd i Ganolfan y Gyfraith a Chrefydd.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan, Norman Doe, “Rwy’n falch iawn bod Rebecca wedi ymgymryd â’r rôl hon. Mae ILAN yn rhan mor bwysig o'r CLR.  Mae cymaint o heriau newydd yn wynebu sefydliadau crefyddol heddiw, a bydd Rebecca yn dod â safbwyntiau, pwyslais ac egni newydd i rôl cynullydd.  Ynghyd â fy nghydweithwyr yn y CLR, edrychaf ymlaen at ddyfodol newydd, cyffrous a chynhyrchiol i ILAN o dan ei chyfarwyddyd."

Sefydlwyd ILAN yn 2007 mewn ymateb i sawl achos llys proffil uchel a oedd yn ymwneud â chrefydd. Amlygodd yr achosion hyn, a oedd yn ymwneud â materion fel gwisg grefyddol, anifeiliaid cysegredig ac ysgolion ffydd, yr heriau sylweddol y mae grwpiau ffydd yn eu hwynebu o dan gyfraith y wladwriaeth. Mae ILAN yn ceisio dod ag aelodau o grwpiau ffydd sy'n ymwneud â'u gweinyddiaeth a materion cyfreithiol ynghyd sy'n rhannu diddordeb ac angerdd ym maes y gyfraith a chrefydd. Mae'n hwyluso trafodaeth barhaus trwy gynnig gwell dealltwriaeth o'r materion cyfreithiol cyffredin sy'n wynebu gwahanol grwpiau crefyddol.

Dywedodd Rebecca am y rhwydwaith, “Mae'n dod yn fwyfwy pwysig bod cymunedau ffydd yn gallu cydweithredu a rhannu syniadau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er bod cyfyngiadau’r cyfnod clo wedi bod ar waith, rydym wedi cael cwestiynau ynghylch addoldai yn gallu agor ac wrth gwrs mae angladdau, priodasau a seremonïau crefyddol eraill wedi cael eu heffeithio. Rwy'n edrych ymlaen at gael trafodaethau am y ffordd y mae cymunedau ffydd wedi gweithredu yn ystod y cyfnodau heriol yma na allem fod wedi'u rhagweld."

Y dasg gyntaf i Rebecca fynd i'r afael â hi yw trefnu cynhadledd nesaf ILAN sydd wedi'i chlustnodi i gael ei chynnal yn ystod haf 2021. Esboniodd, “Nid oes gennym gynllun terfynol ar gyfer y gynhadledd hyd yn hyn oherwydd cyfyngiadau presennol. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio dod â chynrychiolwyr ffydd yng Nghymru ynghyd i drafod radicaleiddio a’u hymagweddau tuag ati. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb brwd yn y modd y mae cymunedau ffydd yn delio â sancsiynau cyfreithiol gan y Wladwriaeth gymryd rhan yn y rhwydwaith.”

Os hoffech ymuno â'r rhwydwaith neu gael rhagor o wybodaeth am ei waith, cysylltwch â Rebecca Riedel.

Rhannu’r stori hon