Ewch i’r prif gynnwys

Uned Caerdydd ar gyfer Ymchwil ac Arfarnu mewn Addysg Feddygol a Deintyddol (CUREMeDE) yn Croesawu Simon Johns

23 Mawrth 2021

Yn 2020, croesawodd CUREMeDE ddau fyfyriwr Ôl-raddedig newydd. Yma, rydym yn croesawu Simon Johns ac yn edrych ar ei waith ar les a iechyd meddwl mewn ysgolion.

“Helo, Simon Johns ydw i ac rwy’n aelod balch o dîm CUREMeDE ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fel seicolegydd a gwyddonydd cymdeithasol, ar hyd o bryd rwy’n creu a gwerthuso adnoddau iechyd meddwl i’w defnyddio mewn cyd-destunnau addysgiadol ar draws Cymru i helpu i gefnogi ysgolion, athrawon, a disgyblion.  Mae hefyd gen i ddiddordeb mawr mewn sut mae’r man dysgu’n dylanwadau ar sut y mae pobl yn teimlo ac ar eu cymhelliant i ddysgu.

Yn fy swydd gyda CUREMeDE rwy’n gwerthuso adnoddau a mentrau’n wyddonol fel y gellir eu deall yn ‘realistig’ - deall sut, pam ac o dan ba amgylchiadau y maent yn gweithio orau, er mwyn eu cefnogi i gyrraedd mwy o bobl ac helpu i wella iechyd meddwl ein cenhedlaeth iau.   Hyd yn hyn mae wedi bod yn ddiddorol dysgu am y rôl mae ysgolion yn ei chwarae wrth lunio canlyniadau llesiant ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy am bwysigrwydd ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol mewn cymdeithas sy'n newid yn gyflym."

Rhannu’r stori hon