Ewch i’r prif gynnwys

Cyflwyno gwersi ar-lein i blant ysgol ledled Cymru

1 Mawrth 2021

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â'r elusen arobryn Teen Tech i gyflwyno mis o ddigwyddiadau digidol, gwyddoniaeth a thechnoleg byw ar-lein i blant mewn ysgolion a gartref ledled Cymru.

O'r gofod, 'Rhyngrwyd Pethau' a roboteg, i gerddoriaeth, iechyd a dylunio gemau, bydd y myfyrwyr yn elwa o ystod eang o sesiynau rhyngweithiol a gyflwynir gan ohebwyr gwyddoniaeth a thechnoleg adnabyddus.

Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau yn cael ei chynnal am bedair wythnos, gan ddechrau ar 2 Mawrth. Mae'n cael ei chefnogi gan Circle, cwmni lleol o Gaerdydd sy’n arbenigwyr atebion ynghyd â Dell a SonicWall.

Bydd pob sesiwn ryngweithiol fyw yn para am awr, gyda'r myfyrwyr yn cael y dasg o ymateb yn greadigol i heriau a phrosiectau cyn cymryd rhan mewn sesiwn adborth dilynol gydag arbenigwyr yn y diwydiant.

Gall dysgwyr iau ymgysylltu â rhaglen Dinas Yfory, gan weithio gyda'i gilydd i ddylunio lleoedd mwy diogel, caredig a chlyfar yn y dyfodol, tra gall dysgwyr hŷn ganolbwyntio ar bynciau arbenigol trwy'r rhaglen Arloesi.

Dyluniwyd y sesiynau i fod yn ddifyr, yn ysgogol ac i roi cyd-destun go iawn i ddysgu, gan helpu’r disgyblion i ddeall mwy am yrfaoedd a’r ffordd y mae technoleg gyffrous newydd yn llywio pob agwedd ar ein bywydau.

Bydd cynnwys pob un o'r sesiynau’n cael ei ddatblygu o amgylch gwaith ac ymchwil a wneir ym Mhrifysgol Caerdydd, o nadroedd robotig i fwrdd cynghori iechyd meddwl ieuenctid, gyda sesiwn holi ac ateb wedi'i chymedroli'n fyw gyda staff Prifysgol Caerdydd i ddilyn.

Dywedodd Prif Weithredwr a chyd-sylfaenydd TeenTech, Maggie Philbin OBE: “Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu a chyflwyno gŵyl fyw gyffrous lawn gweithgareddau ar-lein a luniwyd i wireddu gyrfaoedd ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

“Mae'n gyfle gwych i glywed gan eu timau ymchwil a dylanwad eu gwaith ar dechnolegau'r dyfodol a'r genhedlaeth nesaf.” Rydyn ni mor falch o'r sesiynau hyn sy'n gwneud dysgu yn hwyl ac yn helpu disgyblion i weld yn glir sut y gallen nhw fod yn arloeswyr y dyfodol."

Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rwy’n hynod gyffrous am ein partneriaeth â Gŵyl TeenTech Live. Mae ysbrydoli a pharatoi crewyr ac arloeswyr y dyfodol wrth wraidd cenhadaeth Prifysgol Caerdydd.

“Mae TeenTech yn gyfle gwych i bobl ifanc o bob rhan o Gymru ddarganfod sut mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn berthnasol i'w bywydau a'u diddordebau eu hunain, beth bynnag fo'u cefndir."

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Rwy’n falch iawn bod TeenTech a Phrifysgol Caerdydd wedi ymuno i gyflwyno’r digwyddiadau byw ar-lein hyn, gan mai un o’n prif flaenoriaethau yw gwneud yn siŵr bod ein dysgwyr yn cael cyfle cyfartal i gyrraedd y safonau uchaf mewn gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg.

“Mae gennym ystod eang o gefnogaeth a mentrau ar gyfer athrawon a dysgwyr STEM yng Nghymru, ac rydym yn cefnogi ein hymrwymiad i wella sgiliau STEM, cau’r bwlch mewn cyrhaeddiad a hefyd annog pobl i gymryd pynciau STEM penodol ar lefel TGAU a Safon Uwch.”

Mae Teen Tech yn elusen arobryn, a sefydlwyd yn 2008 gan Maggie Philbin a Chris Dodson i helpu myfyrwyr i weld yr ystod eang o bosibiliadau gyrfa ym maes gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg.

Gall athrawon, rhieni a disgyblion gael rhagor o wybodaeth a chofrestru ar gyfer cymaint o ddigwyddiadau ag y dymunant yn https://www.teentech.com/live/cardiff

Rhannu’r stori hon