Ewch i’r prif gynnwys

Aildyfu Borneo yn plannu’r coed cyntaf

25 Hydref 2020

Borneo

Diolch i bawb sydd wedi rhoi arian i brosiect Aildyfu Borneo. Dyma ragor o wybodaeth am effaith eich rhoddion flwyddyn yn ddiweddarach.

Prosiect ‘Aildyfu Borneo’ yw'r cynllun cyntaf o'i fath mewn unrhyw Brifysgol yn y DU. Lansiwyd y prosiect ym mis Medi y llynedd. Mae’r prosiect wedi datblygu model a arweinir gan ymchwil o adfer cynaliadwy a moesol sy’n mynd y tu hwnt i ddal a storio carbon. Mae coed yn cael eu plannu mewn ffordd fydd yn gwella bywydau a bywoliaethau mewn cymunedau lleol yn ogystal â chynyddu bioamrywiaeth a chydnerthedd yr ecosystem mewn ardal drofannol sydd wedi’i datgoedwigo’n sylweddol.

Mae Aildyfu Borneo, a gafodd ei lansio fel prosiect ailgydbwyso carbon, yn fodel moesol a arweinir gan ymchwil. Mae wedi cael cefnogaeth o bedwar ban y byd, yn enwedig gan y rhai sy’n angerddol am gadwraeth ac yn awyddus i gefnogi prosiect unigryw i adfer yr ecosystem. Mae’r rhoddion hyn wedi cefnogi cymunedau lleol hefyd yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) drwy gynnig ffynhonnell incwm amgen a chynaliadwy.

Flwyddyn yn ddiweddarach...

Mae’r prosiect wedi ailblannu 3 hectar (5,258 o goed) er gwaethaf pandemig byd-eang a gorchmynion rheoli symudiadau parhaus ym Morneo, a’r bwriad yw plannu 2 hectar arall ar ôl y tymor glawog.

Targed y prosiect ar gyfer y flwyddyn beilot (Medi 19 – 20) oedd codi £15,000.  Cyrhaeddwyd y targed hwn erbyn mis Chwefror 2020 a, hyd yma, mae’r prosiect wedi codi 139% o’i darged ar gyfer y flwyddyn gyntaf, ac mae’n dal i godi.

RGB Planting

Gwaith sy’n cael ei wneud:

  • Mae partneriaid lleol eisoes wedi gwneud llawer o waith clirio gwellt a gwinwydd mewn amgylchiadau anodd dros ben.
  • Mae 5,258 o goed wedi’u plannu i gyd sy’n cynnwys 10 o rywogaethau brodorol. Mae’r rhain yn cynnwys rhai newydd a rhai sydd wedi ennill eu plwyf, yn ogystal â rhai sy’n tyfu’n gyflym, yn gallu gwrthsefyll llifogydd, tân a defnydd gan ffawna lleol.
  • Mae lleiniau botanegol wedi’u datblygu ac mae camerâu wedi’u gosod i fonitro presenoldeb/absenolden bywyd gwyllt ym mhob safle ac er mwyn cymharu hen blotiau â rhai newydd.
  • Mae’r gwaith plannu wedi’i oedi ar hyn o bryd (cyfnodau clo newydd mewn mannau lleol a dechrau’r tymor glawog). Fodd bynnag, mae’r tîm eisoes wedi dechrau clirio safle arall ac mae hadau’n barod i’w plannu cyn gynted â bydd amodau’n caniatáu hynny.

Sut gallwch helpu

  • Er bod y coronafeirws (COVID-19) yn parhau i reoli ein bywydau pob dydd, mae angen mynd i’r afael â’r argyfwng hinsoddol ar unwaith.  Rhowch arian i’r prosiect nawr.
  • Os ydych yn gorfod teithio, gallwch gyfrannu’r symiau a argymhellir yn seiliedig ar y pellter rydych chi’n ei hedfan, neu roi beth bynnag rydych chi’n gallu ei fforddio. Dim ond £2 mae’n ei gostio i dyfu, plannu a chynnal coeden am dair blynedd.
  • I gael syniad faint ydym ni’n argymell eich bod yn rhoi ar sail pa mor bell yr ydych chi’n hedfan, defnyddiwch ein map rhoddion a argymhellir isod.

Rhannu’r stori hon