Ewch i’r prif gynnwys

Agenda ymchwil ar gyfer Datblygu Gwledig Byd-eang

1 Hydref 2020

Global Rural Development

Llyfr newydd yn nodi agenda ymchwil arloesol ar gyfer datblygu gwledig byd-eang.

Ysgrifennwyd y llyfr newydd hwn ar y cyd gan Terry Marsden o'r Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd, Clare Lamine a Sergio Schnieder. Mae’n cynnig gwyddorau cymdeithasol gwledig arloesol wedi'u hymgorffori sy'n deall a chyflawni cynnydd tuag at lwybrau amrywiol a chynaliadwy.

Mae'n adleoli datblygu gwledig wrth wraidd tueddiadau byd-eang sy'n gysylltiedig â threfoli eang ond anwastad, newid yn yr hinsawdd a disbyddu adnoddau difrifol, twf cynyddol yn y boblogaeth, dwysedd ac anghydraddoldeb, ac argyfyngau gwleidyddol, economaidd ac iechyd byd-eang.

’Mae lleoedd gwledig, er eu bod o dan fygythiad o hyd, hefyd yn cynrychioli safleoedd o arbrofi, arloesedd a gwrthsefyll anhygoel. Mewn oes o argyfwng ecolegol ac economaidd cynyddol, mae’r llyfr hwn yn cynrychioli ychwanegiad mawr ei angen at y llenyddiaeth sy’n dangos gwledigrwydd fel safle ar gyfer dadl ac adbryniant cymdeithasol-ecolegol.’

Michael Carolan, Prifysgol Talaith Colorado, UDA

Mae’n chwalu syniadau datblygu deuaidd traddodiadol fel gogledd/de, gwledig/trefol, byd-eang/lleol a thraddodiadol/modern. Mae'n cynnig llwybrau posib ar gyfer agendâu ymchwil sylweddol, cydgysylltiedig, gan gynnwys gwledigaethau newydd, llywodraethu, hawliau tir, agro-ecoleg, cyllido, cysylltiadau pŵer, ffermio teulu, a rôl marchnadoedd.

Cyhoeddwyd gan Edward Elgar Publishing. Mae’r llyfr ar gael ar-lein o Hydref 2020.

Rhannu’r stori hon