Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

15 Hydref 2020

Richard Catlow
Professor Richard Catlow

Mae aelodau o gymuned y Brifysgol wedi'u hanrhydeddu yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

Mae'r Athro Richard Catlow, o'r Ysgol Cemeg, wedi cael ei urddo'n farchog am ei wasanaethau ymchwil wyddonol, tra bod yr Athro Dianne Watkins, o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, wedi cael OBE am ei gwasanaethau i addysg ac ymchwil nyrsio.

Mae'r Athro Catlow, sy'n Athro Cemeg Gatalytig a Chyfrifiadurol, yn cael ei gydnabod am ddatblygu dulliau sydd wedi dod yn safonol ar draws y gwyddorau cemegol yn ogystal ag ymrwymiad drwy gydol ei yrfa i arweinyddiaeth effeithiol ar lefel brifysgol, genedlaethol a byd-eang.

Cafodd ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) yn 2004 ac ers 2016 mae wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Tramor ac Is-Lywydd y sefydliad, gan gynnal proffil uchel ar gyfer gwyddoniaeth y DU yn fyd-eang.

Yn 2013, cydsefydlodd yr Athro Catlow Ganolfan Catalysis y DU yn Harwell, Swydd Rydychen, ochr yn ochr â'r Athro Graham Hutchings o'r Brifysgol, sydd ers hynny wedi dod â gwyddonwyr catalytig at ei gilydd o dros 40 o sefydliadau a diwydiannau cyfranogol i ymdrin â phroblemau yn y byd go iawn.

Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywedodd yr Athro Catlow: "Rwy'n falch iawn o dderbyn yr anrhydedd hwn yn bersonol a hefyd am y gydnabyddiaeth mae'n ei rhoi i rôl allweddol gwyddoniaeth ac ymchwil wyddonol."

Professor Dianne Watkins
Professor Dianne Watkins

A hithau’n nyrs flaenllaw ag enw da'n rhyngwladol, yn addysgwr ac yn ymchwilydd, graddiodd yr Athro Watkins fel nyrs ym 1979, yn ymwelydd iechyd ym 1983, ac aeth i mewn i fyd addysg uwch ym 1990.

Mae wedi cael ei chydnabod am ei gwaith dylanwadol dros 40 mlynedd sydd wedi helpu siapio'r proffesiwn nyrsio, nid yn unig yng Nghymru a'r DU, ond hefyd mewn gwledydd megis yr Almaen, Oman, Namibia a Malawi.

Roedd yr Athro Watkins yn rhan o'r tîm wnaeth ddatblygu addysg radd i bob nyrs yng Nghymru, a'r rhaglen rhagnodi anfeddygol cyntaf yn y wlad.

Ar hyn o bryd, mae'n gweithio gyda Phrifysgol Malawi ac ysbyty yn Blantyre i geisio gwella safonau gofal nyrsio i gleifion, drwy ddatblygu canolfan ragoriaeth nyrsio i hyrwyddo arweinyddiaeth a mentrau gwella ansawdd.

Dywedodd am dderbyn yr anrhydedd: "Rwyf wrth fy modd, ac mae'n fraint i fod yn rhan o restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, a chael OBE i gydnabod fy ngwaith i hyrwyddo'r proffesiwn nyrsio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae fy ngyrfa nyrsio wedi bod yn daith ardderchog, ac wedi fy ngalluogi i weithio gyda phobl a gwledydd ble mae datblygu'r proffesiwn nyrsio wedi bod yn fraint, er mwyn gwella'r gofal a roddir i gleifion.

Ymhlith cymuned ehangach y Brifysgol, cafodd nifer o gynfyfyrwyr eu hanrhydeddu am eu gwaith yn ystod pandemig Covid-19. Dyfarnwyd MBE i Mrs Lucy Baker (BA 1995), Dr Eleri Davies (MBBCh 1989) a Mrs Gail Lusardi (MPH 2001), a dyfarnwyd BEM i Mrs Jade Cole (PGCert 2017).

Yn ogystal, dyfarnwyd CBE i Ms Linda Dann (BA 1981) a Dr Kim Golding (BSc 1980, DClinPsy 2002); dyfarnwyd OBE i Mrs Jacqueline Fletcher (MSc 2005); dyfarnwyd MBE i Miss Jessica Jones (BSc 2015), Dr Ibrar Majid (MSc 2011), Dr Carolyn Middleton (ND 2011) a Mr Euan Edworthy (BScEcon 1991); a dyfarnwyd BEM i Mr Alun Guy (BA 1961).

Dyfarnwyd CBE i’r Cymrawd Anrhydeddus, yr Athro Lynne Berry (Anrh. 2012).

Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Rydym ni'n falch iawn o weld gwaith caled ac ymroddiad ein staff a'n cyn-fyfyrwyr yn cael ei gydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines. Ar ran y Brifysgol, hoffwn i longyfarch pawb sydd wedi derbyn gwobr eleni."

Rhannu’r stori hon

Yn ogystal â chreu prosiectau a phartneriaethau gyda chymunedau, rydym hefyd yn croesawu’r cyhoedd i nifer o’n digwyddiadau a’n gweithgareddau.