Ewch i’r prif gynnwys

Proffesiynoldeb mewn Gofal Iechyd a Deintyddiaeth - Adroddiad Newydd wedi’i Gyhoeddi

7 Awst 2020

Wedi'i gomisiynu gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC), cynhaliodd ymchwilwyr yn CUREMeDE a'r Ysgol Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ynghyd ag eraill o'r Gymdeithas Addysg Ddeintyddol yn Ewrop (ADEE), astudiaeth ymchwil dulliau cymysg sy'n rhoi golwg cynhwysfawr ar broffesiynoldeb mewn gofal iechyd a deintyddiaeth.

Nod yr astudiaeth oedd mynd i’r afael â’r cwestiynau ymchwil canlynol:

  1. Pa agweddau ar broffesiynoldeb y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl gan weithwyr deintyddol proffesiynol a pham mae'r rhain yn cael eu hystyried yn bwysig?
  2. Sut y gellir categoreiddio agweddau ar broffesiynoldeb?
  3. A yw disgwyliadau proffesiynoldeb yn wahanol mewn deintyddiaeth o gymharu â phroffesiynau eraill neu rhwng gweithwyr deintyddol proffesiynol?
  4. Addysgu proffesiynoldeb - sut mae cwricwlwm rhaglenni gradd israddedig yn paratoi myfyrwyr i fodloni disgwyliadau proffesiynoldeb a sut mae tystiolaeth o hyn?Key findings include:

Mae rhai o’r prif ganfyddiadau'n cynnwys:

  • Mae proffesiynoldeb yn gysyniad amlochrog sy'n dibynnu ar gyd-destun, ac felly, nid yw'n hawdd ei ddiffinio ar gyfer pob amgylchiad neu unigolyn.
  • Mae aelodau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol deintyddol yn edrych yn wahanol ar ‘broffesiynoldeb’ mewn rhai achosion. Er enghraifft, barn am broffesiynoldeb mewn amser personol, profiad yn ystod yr apwyntiad, ac a yw cyfnewid arian am ofal deintyddol yn chwarae rôl. Roedd gweithwyr deintyddol proffesiynol hefyd yn nodweddiadol yn portreadu proffesiynoldeb mewn termau negyddol (h.y. beth i beidio â'i wneud).
  • Mae gan y gwahaniaethau hyn oblygiadau pwysig i'r berthynas rhwng cleifion a gweithwyr proffesiynol - ac maent yn debygol o barhau oherwydd bod gweithwyr proffesiynol yn ffurfio eu dealltwriaeth o broffesiynoldeb yn bennaf trwy arsylwi.
  • Mae cyfathrebu da a chynnwys cleifion wrth wneud penderfyniadau yn elfen allweddol o broffesiynoldeb ac yn sylfaen hanfodol o ymddiriedaeth.

I gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho'r adroddiad, ewch i https://www.gdc-uk.org/about-us/what-we-do/research/detail/fitness-to-practise/professionalism-a-mixed-methods-research-study.

Rhannu’r stori hon