Ewch i’r prif gynnwys

Mae'r ŵyl ddigidol yn dod ag addysg uwch at bobl ifanc sydd dan anfantais

24 Gorffennaf 2020

Digital festival icon

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal ei gŵyl ar-lein gyntaf i gefnogi pobl ifanc sydd o amrywiaeth o gefndiroedd anfanteisiol, i fentro i addysg uwch.

Mewn ymateb i bandemig Covid-19, bydd Gŵyl eCampws Festival – a gyflwynir ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Sutton a First Campus - yn cynnig gweithgareddau ar-lein arloesol i blant rhwng 16 ac 18 oed fel rhan o raglen bythefnos o hyd.

Gan ddod â staff, myfyrwyr, addysgwyr a phobl ifanc y Brifysgol ynghyd, mae Gŵyl eCampws yn ychwanegu at weithgareddau ehangu cyfranogiad llwyddiannus y Brifysgol a'i nod yw helpu i baratoi disgyblion ar gyfer y brifysgol, gan ddatblygu eu sgiliau a dangos manteision addysgu uwch iddynt.

Wedi'i llywio gan y bobl ifanc eu hunain, bydd yr ŵyl yn canolbwyntio ar bum maes sy'n adlewyrchu eu hanghenion a'u diddordebau eu hunain.

Mae prosiect Ymddiriedolaeth Sutton yn gweithio gyda phobl ifanc 16-17 oed sydd â diddordeb mewn meddygaeth a bydd yn cynnig cyngor pwrpasol ar gyfer cyfweliadau a cheisiadau meddygaeth, ac yn rhoi cipolwg ar y cwrs.

Bydd Camu 'Mlaen, sef prosiect amlycaf y Brifysgol ar gyfer pobl rhwng 16 ac 17 mlwydd oed o dde-ddwyrain Cymru, yn cynnal gweithgareddau yn seiliedig ar ymchwil grŵp a chynhadledd academaidd a arweiniwyd gan Diwtoriaid Allgymorth.

Mae Cipolygon ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cael cynnig lle i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi a bydd yn dangos y rhai sy'n mynd i'r ŵyl yn gweithio mewn grwpiau i ddatrys her, gan ddatblygu sgiliau hanfodol er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer bywyd yn y brifysgol.

Mae Darganfod ar gyfer pobl ifanc â chyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth. Bydd y prif weithgaredd yn defnyddio Minecraft i addysgu myfyrwyr am fywyd yn y brifysgol.

Hefyd, bydd Tîm First Campus yn cynnal prosiect gŵyl yn benodol ar gyfer gofalwyr ifanc o Gymru.

Ar draws y pum digwyddiad, disgwylir i tua 400 o bobl ifanc gymryd rhan ledled y DU.

Dywedodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd: “Rydym yn gweithio mewn adegau anodd ac mae effaith Covid-19 ar rai o'n pobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed wedi bod yn sylweddol. Mae bellach yn bwysicach fyth ein bod yn cefnogi'r bobl ifanc hynny i fentro i addysg uwch a gyda'u cyfnod pontio a'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at groesawu'r grwpiau o bobl ifanc i'n gŵyl a gweld beth y gallan nhw ei gyflawni."

Ochr yn ochr â'r brif raglen, bydd y myfyrwyr yn cael gwybodaeth, cyngor a chanllawiau cyffredinol i gefnogi eu taith i addysg uwch.  

Mae'r Ŵyl hefyd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol i fyfyrwyr ymuno â nhw megis noson ffrydio theatr byw, cwisiau rhithwir, dosbarthiadau ioga a ffitrwydd ar-lein, podlediadau, flogiau, teithiau rhithwir o gwmpas Caerdydd a champws y Brifysgol, a dolenni gŵyl i sesiynau cerddoriaeth a chomedi.

Cynigir cymorth hefyd i rieni neu warcheidwaid y rhai hynny sy'n ymuno â'r ŵyl.

Wrth siarad am Raglen Darganfod, dywedodd rhiant un o'r bobl ifanc sy'n rhan ohoni: “Diolch yn fawr iawn am barhau i gynnal y sesiynau Darganfod hyn. Mae Charlie wedi bod yn blwmp ac yn blaen ynghylch y Coronafeirws ac mae wedi gwrthod gadael y tŷ ers i'r cyfnod clo ddechrau. Y sesiynau Darganfod yw'r unig fath o ryngweithio y mae'n hapus i'w wneud â phobl y tu allan i'r tŷ, felly rydym wir yn gwerthfawrogi'r ffaith y gall barhau i gael y cysylltiad hwn, hyd yn oed os nad ydych yn gweld ei wyneb!

"Mae'r hyn rydych chi a'ch prosiect yn ei wneud yn wych ac mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ifanc. Roeddwn i am sicrhau eich bod yn gwybod pa mor werthfawr yw'r gwaith rydych yn ei wneud, ac rydym yn gwerthfawrogi'r amser rydych wedi'i roi ar ei gyfer."

Mae Gŵyl eCampws yn dechrau ar 27 Gorffennaf 2020. Mae rhagor o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma: https://ecampwsfest2020.sched.com/info

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw cynnig hyblygrwydd a dewis yn ein rhaglenni, yn ogystal â datblygu llwybrau mynediad ychwanegol.