Ewch i’r prif gynnwys

Academyddion yn nodi heriau ariannol i'r sector Addysg Uwch (AU) yng Nghymru o ganlyniad i Covid-19

18 May 2020

Main Building_BlueSky_GreenGrass

Mae prifysgolion Cymru’n wynebu bygythiad difrifol i’w sefyllfa ariannol oherwydd argyfwng Covid-19, yn ôl dadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru.

Mae'r adroddiad gan Cian Siôn, ymchwilydd ar raglen Dadansoddi Cyllid Cymru, yn rhagfynegi y gallai’r sector golli unrhyw beth rhwng £100m a £140m yn 2020-21 o incwm ffioedd yn unig, o ystyried y cwymp disgwyliedig o ran niferoedd y myfyrwyr rhyngwladol a gaiff eu recriwtio a nifer y myfyrwyr cartref sy'n ymrestru.

Mae’r adroddiad yn dadansoddi iechyd ariannol y sector Addysg Uwch yn gyffredinol, ac yn canfod bod £892 miliwn (54.7%) o incwm prifysgolion Cymru yn dod o ffioedd dysgu, o gymharu â 50.2% ar draws y Deyrnas Gyfunol.

Dywedodd Cian Siôn: “Mae’r pwysau ar recriwtio myfyrwyr oherwydd pandemig Covid-19 yn cynrychioli bygythiad ariannol difrifol i’r sector Addysg Uwch yng Nghymru. Mae sawl arolwg yn awgrymu y bydd gostyngiad cyflym yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol a chartref fydd yn ymrestru ym mis Medi.

"Roedd sefydliadau Cymreig eisoes mewn sefyllfa ariannol gymharol wannach cyn yr argyfwng, felly bydd hwn yn ergyd a gaiff ei deimlo’n waeth yma.”

Datgelir hefyd yn yr adroddiad bwysigrwydd cymharol y sector i economi Cymru o gymharu â Lloegr neu’r DG, gyda phrifysgolion yn cynnig 17,300 o swyddi amser llawn Cymreig, ac yn cyfrannu 4.8% o Werth Ychwanegol Gros (GVA) sydd i’w gyfrif am 32.5% o wariant y wlad ar Ymchwil a Datblygu (R&D). Darganfu gwaith ymchwil blaenorol gan raglen Dadansoddi Cyllid Cymru bod cynyddu'r gwariant ar Ymchwil a Datblygu yng Nghymru yn hanfodol er mwyn gwella perfformiad economaidd y wlad.

Yn ôl ymchwilwyr, gall mesurau ymateb economaidd cyffredinol Llywodraeth y DG helpu sefydliadau sy’n wynebu diffyg ariannu sydyn. Ond, maent hefyd yn nodi bod dibyniaeth y sector ar incwm ffioedd rhaglenni aml-flynyddol yn golygu y bydd effeithiau cael llai o fyfyrwyr ym mis Medi i’w teimlo am flynyddoedd i ddod yn ôl pob tebyg. Oni bai y ceir rhagor o gymorth gan y llywodraeth, gallai heriau gweithredol arwain yn y pen draw at golli swyddi a’r sector yn crebachu yng Nghymru.

Yn ôl y dadansoddiad, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Bangor yw’r tri sefydliad sydd â'r mwyaf i’w golli o bosibl pe byddai cwymp yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol. Prifysgol Glyndŵr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yw’r tri sefydliad sydd â’r mwyaf i'w golli o bosibl pe byddai cwymp yn nifer y myfyrwyr “cartref”.

Ychwanegodd Cian Siôn: "Bydd llywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan yn ystyried yn ofalus pa sectorau sydd angen cefnogaeth ychwanegol mwyaf brys er mwyn gwrthsefyll effeithiau’r pandemig.

"Gobeithiwn y bydd y canfyddiadau hyn yn egluro pwysigrwydd y sector Addysg Uwch i economi Cymru a heb ryw fath o becyn cymorth wedi ei deilwra, gallai’r rhan fwyaf o brifysgolion yng Nghymru wynebu bygythiad ariannol difrifol."

Rhannu’r stori hon

We undertake innovative research into all aspects of the law, politics, government and political economy of Wales, as well the wider UK and European contexts of territorial governance.