Ewch i’r prif gynnwys

Mannau Cynaliadwy yn lansio podlediad

5 Mai 2020

Brightly coloured variety of fruits and vegetables

Mae Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy wedi lansio ei bodlediad cyntaf, gyda'r gyfres gyntaf o benodau'n canolbwyntio ar effaith COVID-19 ar waith ymchwil y Sefydliad.

Gydag Alice Taherzadeh, myfyriwr ymchwil Mannau Cynaliadwy, yn cyflwyno, bydd y bennod gyntaf yn trin a thrafod sut mae argyfwng y Coronafeirws wedi effeithio ar y system fwyd.

Gyda dinasyddion Prydain yn wynebu silffoedd gwag mewn archfarchnadoedd, bwytai ar gau, mwy o alw am focsys llysiau lleol, prinder llafur ar ffermydd a phecynnau bwyd i grwpiau sy’n agored i niwed, mae bwyd yn amlwg yn fater allweddol i’w ystyried yn y pandemig presennol hwn.

Sut ydym yn cynhyrchu digon o fwyd iachus ar gyfer y boblogaeth yn ystod cyfnod o bandemig byd-eang? Ble mae’r gwendidau yn y system bresennol a sut gellir ei thrawsffurfio i fod yn fwy gwydn? Pa effaith mae’r argyfwng yn ei chael ar y rheiny sy’n bwydo’r system fwyd? A sut gallai ymatebion brys esblygu’n newidiadau mwy hirdymor?

Mae'r bennod gyntaf yn ystyried y cwestiynau hyn. Gallwch wrando ar y podlediad drwy ein tudalennau ymchwil.

Rhannu’r stori hon