Ewch i’r prif gynnwys

Darlithwyr o Brifysgol Caerdydd yn dathlu athroniaeth Cymraeg

12 Ebrill 2016

Mae athronyddu yn y Gymraeg yn fyw ac yn iach, ac mae hyn i’w weld yn glir yn rhifyn diweddaraf Gwerddon a Chynhadledd JR Jones ar 21-22 Ebrill dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dr Huw L. Williams, Darlithydd Cenedlaethol mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd dan nawdd y Coleg sydd wedi cydlynu'r rhifyn arbennig hwn o Gwerddon. Y tro hwn mae'r e-gyfnodolyn academaidd yn dangos ehangder athronyddu yn y Gymraeg: o hanes athroniaeth Cymraeg i foeseg chwaraeon; o ffuglen gyfoes i hanes ganoloesol.

Gagendor rhwng y Gymraeg a'r di-Gymraeg

Mae'r rhifyn hefyd yn cynnwys erthygl gan Dr Lisa Sheppard o Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n trafod llenyddiaeth Gymraeg a Chymreig. Mae'n dadansoddi'r modd y mae'r damcaniaethau athronyddol 'arall' ac 'aralledd' yn cael eu cyfleu o fewn perthynas y Gymraeg a'r di-Gymraeg. Mae cysyniad yr 'arall' yn gyffredin yng ngweithiau cewri fel Simone de Beauvoir a Georg Hegel. Ond mae Lisa yn ffocysu ar weithiau ysgrifennwyr o Gymru fel Catrin Dafydd a Christopher Meredith ac eraill i esbonio arwyddocad aralledd a'r hunaniaeth Gymraeg gyfoes.

Dywedodd Dr Huw L. Williams:

“Mae’n wych o beth gweld y rhifyn arbennig hwn yn cael ei gyhoeddi gan Gwerddon. Mae’r erthyglau yn cynnig golwg ar ein gwaddol athronyddol gan hefyd awgrymu parhad o’r trywyddau arbennig yma ar gyfer dyfodol y maes yn y Gymraeg. Gyda chyfraniadau gan ysgolheigion ifanc a mwy profiadol o wahanol feysydd, dyma gyfrannu at ein hetifeddiaeth athronyddol a dangos ei fod yn faes sydd yn hygyrch i ddarllenwyr o wahanol ddiddordebau a chefndiroedd.”

Cynhadledd JR Jones

Dr Williams hefyd yw un o gydlynwyr y Gynhadledd sy'n talu teyrnged i'r Athronydd a'r Cenedlaetholwr Cymreig JR Jones yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe yn hwyrach ym mis Ebrill. Bydd ef hefyd yn cymryd rhan yn y Gynhadledd ar Ddydd Gwener 22 Ebrill gyda chyflwyniad ar y pwnc, "'Pobl' ac 'Ysbryd' mewn gwleidyddiaeth'". Gallwch ddarllen mwy am y gynhadledd ac archebu eich tocynnau sy'n rhad ac am ddim ar wefan allanol y digwyddiad.

Nodwch nad yw Prifysgol Caerdydd yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Rhannu’r stori hon