Ewch i’r prif gynnwys

Manteision dysgu Tsieinëeg ar-lein

1 Mai 2020

Online Mandarin learning with the Confucius Institute

Mae tiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd wedi newid o addysgu wyneb yn wyneb i addysgu ar-lein mewn ysgolion lleol ac ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ynod oedd gwneud yn siŵr bod disgyblion a myfyrwyr yn gallu parhau â'u hastudiaethau mewn amgylchedd rhithwir a chadw i fyny â'u dysgu wrth gadw’n ddiogel gartref.

Ar gyfer disgyblion

Mae tiwtoriaid ysgol wedi bod yn addysgu TGAU, YCT a Mandarin cyffredinol i'w disgyblion, gan ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd, rhaglenni ac adnoddau fel Google Classroom, Quizlet ac Edpuzzle.

Mae myfyrwyr ar gyrsiau Ieithoedd i Bawb a rhai rhan-amser ar gyfer aelodau o'r cyhoedd hefyd wedi bod yn dysgu drwy gyfrwng ystafell ddosbarth rithwir, ‘Blackboard Ultra’. Mae’r rhai sy'n cymryd rhan yn dweud ei fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth ryngweithio gydag athrawon a chyd-fyfyrwyr, yn ogystal â chaniatáu iddynt gael gwybodaeth newydd o ddogfennau ar-lein a rennir a gwneud eu profion terfynol.

Dywedodd Sophie Middlehurst, myfyriwr niwrowyddoniaeth, "Mewn gwirionedd, mae’n well gen i’r dull dysgu ar-lein. Dyma'r ffordd orau i ddysgu ar hyn o bryd, yn enwedig gyda sesiynau a recordiwyd ymlaen llaw, mae gwarant y caiff pob myfyriwr fynediad at y cyrsiau.” Ychwanegodd Celia Bourhis, myfyriwr cyfnewid o Ffrainc: "Er ei bod yn well gen i addysgu wyneb yn wyneb, rwy’n gweld addysgu ar-lein yn ddefnyddiol. Rwy’n hoff iawn o swyddogaethau’r bwrdd gwyn yn yr ystafell ddosbarth rithwir, lle rwy’n gallu gweld nodiadau ychwanegol ac esboniadau am nodau Tsieinëeg.”

Bydd Prifysgol Caerdydd hefyd yn cyflwyno eu cyrsiau iaith dros yr haf i'r cyhoedd ar-lein.

Ar gyfer athrawon

Ar 13 Mai, fe ddechreuon ni ein cyrsiau ar-lein, Mandarin i Athrawon. Mae’r dosbarthiadau’n cael eu cyflwyno drwy Zoom, ac yn rhoi cyfle i athrawon sydd eisoes wedi bod yn astudio’r iaith barhau i ddysgu. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn dod o wahanol ysgolion; felly mae’n gyfle braf i gymdeithasu â phobl eraill.

Bydd cyrsiau ar-lein Mandarin i Ddechreuwyr (Dechreuwyr 1) yn dechrau ar ôl hanner tymor.

Rhannu’r stori hon