Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadura Ymchwil Uwch yn cefnogi gweithgareddau ymchwil COVID-19

20 Ebrill 2020

ARCCA research computers

Mae Cyfrifiadura Ymchwil Uwch (ARCCA) yn cefnogi’r gymuned ymchwil er mwyn olrhain esblygiad yr achosion o COVID-19. Mae ARCCA yn cydweithio’n agos â nifer o dimau ymchwil ar draws y Brifysgol yn rhoi’r arbenigedd technegol sydd ei angen i ehangu’r gwasanaethau uwch-gyfrifiadura er mwyn cefnogi ymchwil COVID-19.

Mae tîm ARCCA yn cydweithio â’r unig ganolfan yng Nghymru sy’n dilyniannu COVID-19, yn rhan o Gonsortiwm Genomeg COVID-19 y DU (COG-UK). Mae’r ganolfan ddilyniannu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys tîm o wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a arweinir gan Dr Tom Connor (Cyd-Ymchwilydd prosiect CLIMB a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol).

Bydd yr adnodd newydd yn galluogi gwasanaeth COG-UK i olrhain esblygiad y feirws yng Nghymru ac yn rhoi arbenigedd a data gwerthfawr er mwyn llywio’r ymateb gan wasanaethau iechyd cyhoeddus yn rhanbarthol a ledled y DU.

Gan ehangu defnydd cyfredol CLIMB o’r gwasanaethau a gynhelir gan ein canolfan ddata, mae ARCCA yn arwain y ffordd drwy reoli’r logisteg, y gwaith gosod proffesiynol a’r cynlluniau gwaith er mwyn sicrhau integreiddiad diogel a chadarn i mewn o isadeiledd cyfredol CLIMB-II.

Staff ARCCA fydd yn rheoli’r rhan hon o’r broses. Byddant yn dechrau ar y safle ar 20 Ebrill a’u nod fydd dechrau prosesu dilyniannau genomeg COVID-19 cleifion o Gymru mewn amser real cyn diwedd y mis.

Rhannu’r stori hon