Ewch i’r prif gynnwys

Anafwyd llai o bob gan drais difrifol yng Nghymru a Lloegr yn 2019 - adroddiad data yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys

21 Ebrill 2020

Emergency dept sign

Roedd llai o achosion o drais a arweiniodd at driniaeth frys mewn ysbyty yng Nghymru a Lloegr yn ystod 2019, yn ôl dadansoddiad Prifysgol Caerdydd o ddata gan adrannau damweiniau ac achosion brys.

Yn ôl y dadansoddiad, gostyngodd niferoedd y cleifion a anafwyd gan drais ac a gafodd eu trin mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn 2019 gan 6.3% ers 2018.

Dywedodd awdur yr astudiaeth mai hwn yw'r gostyngiad mwyaf ers 2015 ac mae'n dilyn tair blynedd lle cafwyd llawer llai o ostyngiad mewn trais a lle roedd anafiadau gan gyllyll yn cynyddu'n sylweddol.

Ar y cyfan, mae nifer y bobl a anafwyd gan drais ac a gafodd eu trin mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng gan 143,113 (45%) ers 2010.

Dywedodd yr Athro Jonathan Shepherd, un o awduron yr adroddiad o Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch y Brifysgol: “Yng nghanol yr holl bryderon am Covid-19 ni allwn golli golwg ar fygythiadau difrifol eraill i iechyd y cyhoedd. Mae'r gostyngiad hwn mewn trais difrifol a welwyd y llynedd yn golygu, os cynhelir y mesurau a roddwyd ar waith yn ystod 2018/19 i gyflawni hyn, y bydd trefi a dinasoedd yn fwy diogel pan fyddwn yn goroesi'r argyfwng hwn.

“Mae nifer yr achosion o drais sydd wedi rhoi pobl yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru a Lloegr bron wedi haneru ers 2010. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd go iawn.”

Mae'r awduron yn cyfeirio at sawl esboniad posibl ar gyfer y gostyngiad mewn trais ers 2018, gan gynnwys cynnydd yn adnoddau'r heddlu a'r ffaith eu bod yn targedu troseddau cyllyll, marchnadoedd cyffuriau a lleoliadau penodol.

Dywedodd yr Athro Shepherd, “Rydym yn gwybod nad yw gwaith plismona â thargedau, yn seiliedig ar wybodaeth ddienw gan Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys - a elwir yn Fodel Caerdydd ar gyfer Atal Trais - yn lleihau trais mewn lleoliad penodol yn unig, ond mae hefyd yn lleihau trais yn yr ardal o’i gwmpas.

Gall hyn esbonio pam mae targedu troseddau cyllell wedi atal llawer o achosion o drais sy'n gymharol fach hefyd.

Yr Athro Jonathan Shepherd Athro Emeritws mewn Llawfeddygaeth y Geg, y Genau a'r Wyneb

Yn ôl yr adroddiad, ym mis Ebrill 2019 dyrannodd y Swyddfa Gartref fwy na £50m i heddluoedd gryfhau eu hymateb i droseddau difrifol, yn enwedig troseddau cyllell, gan eu galluogi i gynyddu patrolau, cyrchoedd am arfau, cyfarpar i swyddogion a goramser.

Gwnaeth arbenigwyr o Grŵp Ymchwilio i Drais y Brifysgol ddadansoddi data yn ôl oedran a rhyw o sampl o 111 o adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, unedau mân anafiadau a chanolfannau galw heibio ledled Cymru a Lloegr sy'n rhan o Rwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gwyliadwriaeth Trais Prifysgol Caerdydd dros gyfnod o 12 mis, a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2019.

Mae'r Grŵp Ymchwilio i Drais wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dueddiadau mewn achosion o drais difrifol am y 19 mlynedd diwethaf. Yn ogystal, roedd yn cydweithio â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i lunio'i adroddiad ar gyfer 2020 ar gam-drin plant yn gorfforol.

Amcangyfrifwyd bod 175,764 o bobl wedi bod i gyfleusterau brys y GIG gydag anafiadau a gafwyd gan drais yn 2019 - 11,820 yn llai na'r flwyddyn flaenorol.

Gostyngodd anafiadau gan drais i ddynion a merched gan 6.6% a 5.6%, yn y drefn honno, yn 2019 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Hefyd, cofnodwyd gostyngiadau mewn achosion o drais ymysg pobl rhwng 18 a 30 oed (wedi gostwng 11.7%) a'r bobl rhwng 31 a 50 oed (wedi gostwng 9.3%).

“Yn 2019, roedd bron 12,000 yn llai o bobl wedi cael eu trin mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys am anafiadau a achoswyd gan drais, sy'n gyflawniad sylweddol. Ar ôl rhai blynyddoedd o wastatáu pan gynyddodd trais cyllyll mae'n galonogol gweld trais cyffredinol yn gostwng unwaith eto," dywedodd yr Athro Shepherd.

"Fodd bynnag, nid newyddion da yw e i gyd. Am yr ail flwyddyn yn olynol rydym wedi gweld cynnydd mewn anafiadau treisgar ymysg pobl dros 50 oed (wedi cynyddu 7.9% yn 2019, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol). Mae'n anodd esbonio'r cynnydd hwn ond gall fod yn gysylltiedig â'r cynnydd yn faint o alcohol y mae'r grŵp oedran hwn yn ei yfed."

Yn debyg i flynyddoedd blaenorol, y rhai hynny oedd yn wynebu'r risg mwyaf o ran anafiadau a oedd yn gysylltiedig â thrais oedd dynion (gan wynebu mwy na dwywaith y risg yr oedd menywod yn ei wynebu) ac oedolion ifanc (rhwng 18 a 30). Roedd yr achosion mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a oedd yn gysylltiedig â thrais yn digwydd fwyaf aml yn ystod mis Mawrth a mis Awst ac ar benwythnosau.

“Bydd adroddiad y flwyddyn nesaf yn adlewyrchu effaith pandemig Covid-19" dywedodd yr Athro Shepherd.

Rhannu’r stori hon