Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad newydd am sefyllfa ariannol sector cyhoeddus Cymru yn canfod diffyg o £14.7 biliwn

4 Ebrill 2016

Image of the Senedd in Cardiff Bay

Mae adroddiad newydd gan arbenigwyr datganoli treth a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun 4 Ebrill 2016) yn dangos bod gwariant y sector cyhoeddus ar gyfer Cymru yn 2014-15, £14.7 biliwn yn fwy na refeniw'r sector cyhoeddus.

Canfu'r adroddiad bod diffyg o £14.7 biliwn ym mantolen gyllidol Cymru yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sy'n cyfateb i oddeutu 24% o'r amcangyfrif o'r CMC. Mae'r ffigur hwn yn cymharu â diffyg o 4.9% ar gyfer CMC y DU gyfan, a £14.9 biliwn (9.7% o'r CMC) ar gyfer yr Alban.

Cyhoeddir yr adroddiad nodedig, Gwariant a Refeniw Llywodraethol Cymru (GERW) 2016, gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r adroddiad yn cyflwyno dadansoddiad cynhwysfawr dros nifer o flynyddoedd o wariant a refeniw'r sector cyhoeddus yng Nghymru, a mantolen gyllidol y genedl yn gyffredinol, gan ddefnyddio methodolegau tebyg a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar gyfer eu harolygon gwariant a refeniw blynyddol yn nhiriogaethau datganoledig eraill y DU.

Canfu'r canlynol gan awduron yr adroddiad:

  • Mae mantolen gyllidol Cymru wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, o ddiffyg o £15.8 biliwn (29.2% o'r amcangyfrif o'r CMC) yn 2010-11. Achoswyd hyn gan dwf cyflymach mewn refeniw (12.3% mewn termau nominal) o'i gymharu â gwariant (dim ond 3.9%) yn 2010-11.
  • £38.0 biliwn yw cyfanswm gwariant y sector cyhoeddus yng Nghymru gan lywodraeth ar bob lefel yn 2014-15, tua £12,300 y pen (o'i gymharu â chyfartaledd o £11,400 ar draws y DU gyfan). Gwariant Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol oedd 53% o'r cyfanswm hwn; roedd gwariant Llywodraeth y DU yn cyfrif am 47% o gyfanswm y gwariant.
  • Amcangyfrifwyd mai £23.3 biliwn oedd cyfanswm refeniw'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn 2014-15. Roedd refeniw y pen oddeutu £7,500, sy'n llawer is na ffigur y DU ar gyfartaledd, sef oddeutu £10,000.

Mae'r adroddiad hefyd yn trafod yr heriau sy'n wynebu fframwaith cyllidol Cymru yn y dyfodol yn sgîl datganoli trethi i Gymru. O ganlyniad i ddatganoli trethi, bydd system ariannu gwariant Cymru'n newid yn sylweddol yn ystod y Pumed Cynulliad.

Canfu'r adroddiad bod refeniw sydd wedi ei ddatganoli, neu a fydd wedi ei ddatganoli'n fuan, wedi codi £4.2 biliwn yn 2014-15. Mae hyn tua 18.1% o gyfanswm refeniw presennol Cymru, sy'n cyfateb i oddeutu 21.0% o'r amcangyfrif o wariant datganoledig.

O'i gymharu â threthi heb eu datganoli megis TAW, sydd wedi dangos twf cadarn dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r refeniw o drethi a gaiff eu datganoli'n fuan wedi aros yn eu hunfan i raddau helaeth, yn bennaf oherwydd y gostyngiad yn y refeniw a amcangyfrifir o gyfraddau treth incwm Cymru.

Dywedodd Ed Poole, darlithydd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, ac un o awduron yr adroddiad: "Nid yw trosglwyddo rhwng tiriogaethau cyfoethocach a thlotach o fewn gwladwriaeth yn anarferol yn rhyngwladol. At hynny, mae'r DU gyfan wedi bod mewn diffyg, ac yn ddibynnol ar fenthyca i wneud iawn am y gwahaniaeth rhwng refeniw a gwariant. Wedi dweud hynny, mae diffyg cyllidol Cymru o £14.7 biliwn, sef oddeutu 24% yr amcangyfrif o'r CMC, yn fwlch sylweddol rhwng y refeniw a godir yng Nghymru a gwariant cyhoeddus Cymru, ac nid oes unrhyw dystiolaeth bod y bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU yn cael ei bontio.

"Mae ffigurau GERW 2016 yn amlinellu maint yr her sy'n wynebu Cymru, wrth i wasanaethau cyhoeddus ddod yn fwyfwy dibynnol ar drethi o ffynonellau cartref, megis cyfraddau newydd y Dreth Incwm a Threth Stamp yng Nghymru."

Wrth sôn am ganfyddiadau'r adroddiad, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: "Yn wahanol i'r adroddiadau mantolen gyllidol blynyddol a gaiff eu cyhoeddi a'u dosbarthu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid oes adroddiad tebyg wedi canolbwyntio ar y sefyllfa yng Nghymru ers bron i ddau ddegawd. Mae hyn wedi golygu bod unrhyw drafodaeth o ddifrif am sefyllfa arian cyhoeddus ein gwlad wedi'i llesteirio'n gyson gan brinder data am wariant cyhoeddus, trethi a data economaidd sylfaenol arall. Mae adroddiad GERW yn rhoi sylw i'r angen hir-sefydlog hwn am well data a gwybodaeth am sefyllfa ariannol gymharol Cymru.

“At hynny, gan ei bod yn debygol mai datganoli trethi fydd un o themâu pwysicaf y Pumed Cynulliad, mae'r adroddiad hwn hefyd yn tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu gwleidyddion Cymru wrth iddynt geisio dod i gytundeb gyda'r Trysorlys ynglyn â’r cwestiwn allweddol o sut yn union i weithredu trethi datganolig. Fel y nodir yn glir yn GERW 2016, mae cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y fantol yn y drafodaeth hon.”

Rhannu’r stori hon