Ewch i’r prif gynnwys

Achub ein morwellt

8 Mawrth 2016

Seagrass

Mae angen gweithredu ar frys i atal dolydd morwellt y byd rhag diflannu

Mae angen gweithredu ar frys i atal dolydd morwellt y byd rhag diflannu, i roi blaenoriaeth i'w diogelwch ac i gydnabod yr amrywiaeth o wasanaethau ecosystem a gaiff eu darparu ganddynt.

Mewn erthygl yn Journal of Applied Ecology, mae Dr Leanne Cullen-Unsworth o Brifysgol Caerdydd a Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe yn amlinellu strategaethau i wrthdroi dirywiad byd-eang y dolydd morwellt.

"Mae ein dolydd morwellt yn adnodd byd-eang sy'n darparu llu o wasanaethau ecosystem, gan gynnwys rhoi llawer o gynhaliaeth i bysgodfeydd byd-eang," meddai Dr Cullen-Unsworth, sy'n gweithio yn Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd.

"Ni ellir gwadu gwerth ecolegol dolydd morwellt, ond maent yn parhau i ddirywio ar raddfa gynyddol. Mae arnom angen lleihau'r difrod i forwellt ar frys, yn enwedig yn wyneb newid amgylcheddol cyflym a byd-eang."

Yn yr erthygl, dywed yr ymchwilwyr mai ansawdd dŵr gwael yw'r pryder byd-eang mwyaf sy'n wynebu morwellt, ac maent yn awgrymu y gall camau syml ar draws diwydiannau, dalgylchoedd, awdurdodaethau a chymunedau helpu i wella'r sefyllfa.

Maent hefyd yn esbonio bod lleihau effaith cychod, atal rhywogaethau goresgynno rhag lledaenu, datblygu partneriaethau gwyddoniaeth-diwydiant, a hyrwyddo defnydd cynaliadwy o rywogaethau sy'n gysylltiedig â morwellt yn ffyrdd allweddol o wneud dolydd morwellt yn fwy cadarn yn y tymor hir.

"Yn ogystal, mae ar gadwraeth morwellt angen mwy o fuddsoddiad hirdymor, yn ogystal â gwell polisïau a deddfwriaeth i gefnogi'r gwaith o reoli'r systemau hyn yn lleol ac yn rhanbarthol fel rhan o forlun cysylltiedig," meddai Dr Unsworth o Adran Biowyddorau Prifysgol Abertawe.

"Mae angen gwell addysg a chodi ymwybyddiaeth yn eang er mwyn i'r cannoedd o filiynau o bobl sy'n byw ger dolydd morwellt ddeall eu pwysigrwydd a'u sensitifrwydd," ychwanegodd.

Mae eu papur - Strategies to enhance the resilience of the world's seagrass meadows - ar gael i'w ddarllen yma.

Mae'r ymchwilwyr yn rhedeg yr elusen cadwraeth forol Prosiect Morwellt hefyd, sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Loteri'r Bobl o £50,000. Nod Prosiect Morwellt yw cysylltu 15,000 o blant ar draws gogledd Cymru â’r byd morol a'r adnoddau mae ein moroedd yn eu darparu, gan eu hysbrydoli i fod yn warcheidwaid ein cefnforoedd yn y dyfodol. Gall pobl bleidleisio dros y prosiect tan 13 Mawrth 2016.