Ewch i’r prif gynnwys

Chwalu'r rhwystrau

8 Mawrth 2016

Karen Holford and formula one car

Mae’r Athro Karen Holford yn nodi mentrau i fynd i'r afael â phrinder critigol o fenywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (8 Mawrth), wedi’i gyd-ysgrifennu gan yr Athro Karen Holford o Brifysgol Caerdydd, wedi manylu ar gyfres o fentrau ac argymhellion gyda'r nod o annog a helpu mwy o fenywod i chwilio am swyddi yn y sector gwyddoniaeth.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru’r adroddiad a chafodd ei gyhoeddi i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac mae’n ceisio ymdrin â phrinder critigol o fenywod sy'n gweithio mewn rolau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yng Nghymru.

Enw’r adroddiad yw ‘Talented Women for a Successful Wales’ [DOLEN], ac un arall o’r cyd-awduron oedd Hilary Lappin-Scott o Brifysgol Abertawe. Mae’n datgan bod yn rhaid i agwedd cymdeithas newid er mwyn chwalu’r rhwystrau presennol a chefnogi twf economaidd Cymru yn y dyfodol.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai cynyddu nifer y menywod ym meysydd STEM fod gwerth £ 2 biliwn i economi'r DU yn ei chyfanrwydd.

Mae'r adroddiad yn mynd i’r afael â’r prif faterion sy'n atal menywod rhag mynd i rolau STEM ac yn cyflwyno cyfres o argymhellion mewn pedwar maes allweddol: addysg; recriwtio; cadw; a dyrchafu.

Ymhlith y mentrau mae: rhoi mwy o sgiliau i athrawon i ennyn diddordeb bechgyn a merched; adeiladu cysylltiadau cryf rhwng ysgolion, colegau a busnes; herio stereoteipiau rhyw yn y cartref ac mewn ysgolion; gwella perthnasedd a ffocws gwybodaeth gyrfa; a chael gwared ar y bwlch cyflog rhwng dynion a menywod yn y gweithle.

Yn ôl ymchwil diweddar, ar hyn o bryd yng Nghymru mae diffyg o tua 600 o academyddion STEM, a gellir mynd i’r afael â hyn yn uniongyrchol drwy gynyddu nifer y menywod sy'n astudio pynciau STEM ac yn manteisio ar swyddi yn y meysydd hyn.

Dywedodd yr Athro Holford, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Mae’r sectorau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn hanfodol i lwyddiant Cymru, gan wneud cyfraniad mawr i arloesi, twf economaidd ac ansawdd gwasanaethau cyhoeddus.

"Mae menywod yn perfformio'n well na dynion mewn addysg gyffredinol ond mae mwy ohonynt yn parhau i weithio mewn swyddi sy'n gofyn am sgiliau is na’u lefel addysgol. Maent yn cael eu tangynrychioli yn y gweithlu STEM; mae hyn yn wastraff o wybodaeth a doniau.

"Nid yw'r broblem hon yn unigryw i Gymru a bellach mae clystyrau o ymarfer gorau a mentrau polisi yn dod i’r amlwg ledled y byd y gallwn ddysgu ohonynt."

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i hyrwyddo gyrfaoedd menywod yn y byd academaidd ac ymchwil, ac ar hyn o bryd yn meddu ar wobr Efydd Athena SWAN – cynllun cenedlaethol sy’n cydnabod ymrwymiad i gefnogi gyrfaoedd menywod ym meysydd STEM mewn addysg uwch ac ymchwil. Mae 13 o Ysgolion ar draws y Brifysgol hefyd yn meddu ar wobr Efydd ac mae’r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol yn meddu ar wobr Arian.

Yn ddiweddar dyfarnwyd statws ymarferwr Juno i’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth gan y Sefydliad Ffiseg i gydnabod y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â’r diffyg cynrychiolaeth o fenywod mewn ffiseg prifysgol ac i annog gwell ymarfer ar gyfer dynion a menywod.

Isod, mae academyddion benywaidd o bob rhan o’r Brifysgol yn esbonio sut daethant i fod mewn gyrfa ym meysydd STEM, beth sy’n eu hysbrydoli ac yn eu cymell, a beth mwy y gallwn ei wneud i annog y genhedlaeth nesaf i astudio pynciau STEM:

Dr Emma Yhnell, Ysgol Biowyddorau

"Cefais fy ysbrydoli gan fy athrawon ysgol – a’m hathrawon bioleg yn arbennig – a oedd yn wych am ddefnyddio propiau, gemau a fideos i geisio cyfleu syniadau gwyddonol i ni. Byddaf bob amser yn cofio un o'n hathrawon yn agor a chau drws cwpwrdd ac yn gweiddi 'COLFACH!' fel y byddem yn cofio’r cymalau colfach yn ein corff. Gwnaethant wyddoniaeth yn hwyl a phan fyddwch yn mwynhau’r hyn rydych yn ei ddysgu, credaf y byddwch bob amser yn tueddu i ragori.

"Yr hyn rwy’n caru ynglŷn â gwyddoniaeth yw fy mod yn ceisio ateb cwestiynau ni ŵyr neb yr atebion iddynt. Nid oes unrhyw deimlad gwell na chael canlyniadau'r arbrawf rydych wedi bod yn gweithio arno am ddwy flynedd o’r diwedd. Rwy'n caru siarad â chleifion a theimlo y gallaf wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

"Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig cael plant a myfyrwyr yn ymwneud â gwyddoniaeth, yn cymryd rhan ynddi, ac yn siarad amdani o oedran ifanc."

Dr Liz Bagshaw, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd

"Rwy’n gweithio gyda phobl ryfeddol, ysbrydoledig o bedwar ban byd. Mae pob diwrnod yn wahanol, a gallaf archwilio’r pethau sydd o ddiddordeb go iawn i mi. Mae'n ystrydeb, ond nid ydych byth yn rhoi'r gorau i ddysgu - mae pob problem newydd yn ei gwneud yn ofynnol cael ateb newydd, sy’n golygu dysgu sut mae rhywun arall mewn maes arall wedi ymdrin ag ef. Mae hynny'n gyffrous i mi. Ac mae’r teithio yn anhygoel – rwy'n cael cyfle i ymweld â lleoedd anhygoel i wneud fy ymchwil, gan gynnwys yr Ynys Las ac Antarctica. Ni allwch guro’r olygfa o ddrws fy mhabell.

"I ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fenywod i astudio gwyddoniaeth, mae angen inni roi gwybod iddynt ei bod yn opsiwn. Nid oedd gennyf syniad nes imi ddod i brifysgol bod yna sector gyrfa gyfan gwyddoniaeth, ac mae hynny er gwaethaf cael rhieni sy'n gweithio mewn disgyblaethau STEM. Yr oeddwn yn meddwl bod gwneud PhD yn golygu eistedd mewn atig llychlyd a darllen llyfrau, nid mynd i Antarctica i gasglu samplau."

Dr Ewa Nowicka, yr Ysgol Cemeg

"Ers oedran cynnar cefais fy ysbrydoli gan Maria Curie – menyw a oedd yn gorfod chwalu rhwystrau enfawr i ddod yn wyddonydd. Roeddwn yn ymwybodol ohoni am y tro cyntaf pan oeddwn yn saith mlwydd oed ac mae’n hi’n parhau i fod yn fy ysbrydoliaeth heddiw.

"Rwyf wrth fy modd â’r ffaith bod gwyddoniaeth yn rhesymegol a daw un rhif neu fformiwla gemegol o un arall. Mae gwyddoniaeth wedi cael dylanwad gwirioneddol ar fywydau pobl ac mae’n gyrru arloesi.

"Dylem ddangos i blant nad yw gwyddoniaeth yn gorfod bod yn ddiflas. Gallwn eu hysbrydoli trwy ddangos arbrofion syml iddynt, ond hefyd sôn am wyddoniaeth mewn ffordd ddynol. Ar gyfer plant hŷn gallwn drefnu teithiau ysgol i labordai a threfnu ffeiriau gwyddoniaeth; fodd bynnag, dyletswydd y rhiant yw gwneud y plant yn chwilfrydig am y byd o'u cwmpas a dangos iddynt sut i chwilio am atebion.”

Rhannu’r stori hon